Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyddonwyr o Gymry Syr Dayid Brunt, F.Ä.S. Nid yw'r Cymry wedi bod ar ôl fel mathemategwyr o ddyddiau Robert Recorde yn yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at y ganrif bresennol. Un o'r disgleir- iaf ohonynt oedd David Brunt. Ganwyd ef ar Fehefin 17, 1886, ym mhentre bach gwledig Penfforddlas (Staylittle) yn Sir Drefaldwyn. Mae panorama ardderchog o fryniau Cymru a'r cymylau yn hedfan uwch eu pennau i'w weld ymhob cyfeiriad o'r pentre bach di-nod hwn a synnwn i ddim na fu yn ysbrydoliaeth i'r llanc ieuanc. Fe oedd yr ieuengaf o naw o blant John Brunt, gwas fferm, a'i wraig Mary, y ddau o achau amaethyddol. Siaradodd Gymraeg bron yn llwyr pan yn blentyn a chafodd ei addysg gynnar yn ysgol Gymreig y pentre. Yn 1896 symudodd y teulu i Lanhilleth, Sir Fynwy, a'i dad yn gweithio yn y pwll glo. Saesneg oedd iaith yr ardal honno ac iaith yr ysgol, y dosbarthiadau'n fawr a'r ysgolfeistri yn niferus. Ond ymsefydlodd David er y cyfnewidiadau ac yn 1899 ef oedd ar ben rhestr yr ysgoloriaethau i Ysgol Ganolraddol Abertileri. Yno y bu hyd 1904 a chydnabuwyd ei alluoedd eithriadol yn fuan iawn. Wedi pasio'r Dystysgrif Uchaf gyda rhagoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol yn 1904 cafodd ysgoloriaeth o £ 30 y flwyddyn am dair blynedd gan Gyngor Sir Fynwy. Yn yr un flwyddyn enillodd y brif ysgoloriaeth o £ 40 y flwyddyn am dair blynedd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Aeth yno yn 18 mlwydd oed ac astudiodd ychydig o Gemeg, Ffiseg a Mathemateg dan R. W. Genese a G. A. Schott. Roedd ei allu fel mathemategwr yn ddiarhebol yn y Coleg. lThe best mathematician I ever taught', oedd tystiolaeth yr Athro Genese amdano. Enillodd ei radd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Mathemateg ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt yn 1907. Yma eto daeth yn uchaf yn ei ddosbarth yn rhannau 1 a 2 o'r Tripos Mathemategol ac ethol- wyd ef i Ysgoloriaeth Isaac Newton yn Arsyllfa Ffiseg yr Haul lle y gweithiodd gyda'r enwog H. F. Newall. Yno hefyd, dan ysbrydoliaeth F. J. M. Stratton, o'm hen Goleg, Gonville and W. IDRIS JONES Caius, yng Nghaergrawnt, y daeth i sylweddoli gwerth dulliau ystadegol. Cyhoeddodd nifer o bapurau ac yn 1917 ei lyfr cyntaf, The Combination ofObservations, llawlyfr ymarferol poblogaidd iawn ar ddulliau ystadegol oedd hwn. Roedd disgyblaeth seryddiaeth yn ddiau yn werthfawr iawn iddo nes ymlaen wrth ymdrin â data cymhleth meteoroleg. Aeth o Gaergrawnt yn 1913 yn ddarlithydd mewn Mathemateg am flwyddyn ym Mhrifysgol Birming- ham. Yna dysgodd o 1914 hyd 1916 yng Ngholeg Hyfforddi Caerleon. Priododd Claudia Mary Elizabeth, merch William Roberts, ysgolfeistr o Nantyglo a chyd-fyfyriwr ag ef yn Abertileri ac Aberystwyth. Yn 1916 ymrestrodd yn Adran Meteoroleg y Royal Engineers a bu yn Ffrainc o 1914 hyd 1918. Yno y daeth i gyffyrddiad â darogan tywydd proffesiynol a chymhwyso meteor- oleg ym maes y magnelau. Tua diwedd y rhyfel bu yn feteorolegwr i'r R.A.F. fel Capten. Ymunodd â'r Swyddfa Feteorolegol ar ôl y rhyfel ar adeg ddifrifol yn hanes y Swyddfa pan ddeuai galwadau diderfyn a chyson am wybodaeth o'r awyr uchaf ac am ddarogan y tywydd at wasan- aeth y meysydd awyr. Penodwyd David Brunt yn arolygwr Gwasanaethau Meteorolegol y Fyddin a gwnaeth lawer o waith gwreiddiol. Gwahoddwyd ef gan Syr Napier Shaw, Imperial College, Llun- dain, i fod yn ddarlithydd rhan-amser a dysgodd lawer am feteoroleg dan ysbrydoliaeth Shaw. Caniataodd ei swydd iddo ddechrau ac arwain gwaith ymchwil mewn meteoroleg. Defnyddiwyd nwy gwenwynig fel arf grymus gan y ddwy ochr yn rhyfel 1914-18 heb wybodaeth gywir o nodweddion trylediad awyrol. Pan sefydlwyd Canolfan arbrofol rhyfel cemegol yn Porton yn 1921 dewiswyd Brunt i drefnu rhaglen ymchwil ar feteoroleg y rhannau isaf o'r awyr. O 1921 hyd 1929, fel cadeirydd Is-Bwyllgor Meteorolegol y Pwyllgor Amddiffyn, cyfrannodd yn helaeth at lwyddiant y gwaith a gariwyd allan gan Syr Nelson Johnson a'i olynwyr yn Porton. Yn 1934 penodwyd Brunt yn athro cyflavn Meteoroleg yn Imperial College, Llundain, ac n