Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr un flwyddyn cyhoeddodd ei lyfr Physical and Dynamical Meteorology, gwaith amlwg a sefydlodd ei enw yn y byd academaidd. Roedd yn lyfr gwerth- fawr yn astudio meteoroleg fel cangen o ffiseg mathemategol. Yn 1939 etholwyd ef yn F.R.S. Penodwyd ef yn aelod o Gyngor y Gymdeithas Frenhinol yn 1942, ysgrifennydd y Gymdeithas o 1948 hyd 1957 ac Is-lywydd o 1949 hyd 1957. Meddai ar frwdfrydedd at bob peth a wnai. Urddwyd ef yn Faglor Farchog yn 1949 ac yn K.B.E. yn 1959. Ef oedd llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol 0 1942 hyd 1944 a derbyniodd Wobr Buchan yn 1933 a Medal Aur Symons yn 1947. Yn 1944 rhoddwyd iddo Fedal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol. Bu'n llywydd y Gymdeithas Ffisegol 0 1945 hyd 1947. Yn 1940 cafodd y radd D.Sc. (Cantab.) ac ar ôl hynny Ddoethuriaethau mewn Gwyddoniaeth er anrhydedd Prifysgolion Cymru a Llundain. Yn ystod rhyfel 1939-45 treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn cynghcd a hyfforddi meteorolegwyr. Ar ôl hynny ymddiddorodd yn nhaflenni mathe- mategol a datblygiad cynnar y cyfrifyddion. Bu'n neilltuol brysur yn trefnu cyfraniad Prydain i weithrediadau'r Flwyddyn Ryngwladol Geoffisegol (1958-59). Ei gynllunio gofalus ef oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am lwyddiant ymgyrch y Gym- deithas Frenhinol i Halley Bay, Antarctica. Yn wir, enwyd y silff iâ lle saif y stesion ar ei ôl. Gwnaeth lawer hefyd i annog gwyddonwyr Prydeinig i ddefnyddio rocedi i ymchwilio'r awyr uchaf. Ymddeolodd o'r bywyd academaidd yn 1952 gyda'r teitl Athro-Emeritus a phenodwyd ef yn gadeirydd Cyngor Ymchwil Cyflenwad Trydanol, rhan o'r Awdurdod Trydan Canolog. Gweithredai cyn hynny fel ymgynghorwr i'r Awdurdod ar broblemau gwasgaru nwyon o simneiau'r gorsaf- oedd trydan. Ymddeolodd o'r diwedd yn 1961 ond yn anffodus cymylwyd ei fywyd gan afiechyd hir ei wraig a marwolaeth sydyn ei unig fab. Ymneilltuodd i gartref henoed yn y wlad. Bu farw yn 79 mlwydd oed ar ôl cystudd byr. Cyhoeddodd 68 o erthyglau mewn gwahanol gylchgronau, pump llyfr clasurol a thair erthygl yn yr Encyclopaedia Britannica a'r Geiriadur Ffiseg Cymhwysol. Cyfraniad pennaf Brunt ar y dechrau i waith ymchwil meteorolegol oedd ei ymchwil i gyfnodoldeb yn nhywydd Ewrob. Mae sôn am gylchoedd tywydd yn llyfr Genesis a thrwy holl hanes meteoroleg gwnaethpwyd pob Syr DAYID-BRUNT ymdrech i chwilio am gyfnodoldebau er mwyn ceisio rhagweld natur cyffredinol y tywydd am flwyddyn neu fwy ymlaen. Daeth Brunt i'r casgliad nad oes bosibl cyfri'n hyderus, gwerth y gwahan- iaethau cyfnodol am unrhyw gyfnod yn y dyfodol. Er yn siomedig, bu'r casgliad yn foddion i bers- wadio meterolegwyr i dalu mwy o sylw i'r cefndir ffisegol a throdd yntau ei sylw'n fwy at agwedd ddeinamig. Rhoddodd enghreifftiau o'i siartau i esbonio'r glaw trwm parhaus yn nirwasgiad nodweddiadol y lledred canolog a phwysigrwydd cydran y gwynt nad yw'n rhedeg ar hyd yr isobarau.