Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dan Law'r Meddyg AFIECHYDON PLANT YN ystod misoedd y Gaeaf a dechrau'r Gwanwyn mae'r feddygfa yn llawn a'r galwadau yn niferus, ac mi glywch bobl yn sôn fod `llawer o salwch o gwmpas'. Afiechydon heintus megis yr annwyd cyffredin, y ffliw, tonsilitis, clefyd 'sgyfaint, etc., sydd yn cyfrif am gyfran helaeth o'r salwch yma a phrysurdeb y meddyg. Ymhlith y cleifion mae nifer sylweddol o blant ac o'r herwydd rwyf am ganol- bwyntio hyn o sylwadau ar y plentyn mewn twymyn. Efallai mod i'n gwneud cam â darllenwyr Y GWYDDONYDD ond credaf fod angen cyfarwyddyd ar rieni ifanc heddiw. Mae'r alwad 'y gwres yn uchel' yn achosi panic gormodol a gelwir am y meddyg yn rhy aml 0 lawer heb fod gwir angen amdano-neu fe gaiff gais ar y ffôn am 'antibiotic' i ddod â'r gwres i lawr. Ynghanol prysurdeb llethol, temtasiwn yw i'r meddyg gydsynio. Gwres uchel Mewn iechyd cedwir y corff mewn tymheredd sy'n fwy neu lai'n sefydlog ar 98 -4 F. (37c C.). Pan ddaw afiechyd heintus cyfyd y tymheredd mewn ymdrech ar ran y corff i ladd yr haint. Felly, cyn belled na chyfyd yn ormodol mae'r gwres yn ddistrywiol i'r haint. Os â'r gwres yn uchel iawn mae arwyddion eraill yn datblygu megis chwysu trwm, diffyg archwaeth, cyfogi, cwsg anesmwyth, plentyn yn ffwndro, ac efallai yn gweiddi trwy'i gwsg mewn hunllef. Mewn nifer fach iawn o achosion gall gwres uchel achosi ffitiau ond er fod hyn yn frawychus, nid yw fel arfer yn peri dim niwed. Gall nifer mawr o heintiau cymharol ysgafn achosi twymyn. Y mwyaf cyffredin, wrth gwrs, yw annwyd a all beri i blentyn fod yn 'swp' am ddeuddydd neu dri ond daw ato'i hun yn bur fuan. Gyda heintiau mwy peryglus megis tonsilitis, y frech goch neu bronchitis mae'r plentyn yn waelach a'i salwch yn para'n hwy. Y mae'n werth cofnodi y gall rhyw gynnwrf emosiynol gynhyrchu gwres mewn plentyn. Gwelir hyn yn ystod arholiadau ysgol neu amgylchiadau eraill sy'n peri rhyw fath o bryder. Gall gwres plentyn nwyfus hefyd godi ar ô1 chwarae caled — ynni'n llosgi'n gyflym sy'n achosi hyn. Yn aml ddigon mae achos y dwymyn yn amlwg ac ni fydd angen y meddyg. Ond beth bynnag fo'r dwymyn y mae rhai cyfarwyddiadau y dylid eu dilyn. Beth i'w wneud Yn y lle cyntaf rhaid cael ystafell gynnes a'i hawyr yn iach; yn rhy gyffredin o lawer hyd yn oed yn y dyddiau hyn ceir y plentyn claf un ai mewn ystafell wely oer neu yn yr ystafell fyw ar y soffa wrth y tân ynghanol y teulu'n gwylio'r teledydd. Ni all claf orffwyso'n foddhaol o dan yr amgylch- iadau yma, heb sôn am y perygl o drosglwyddo'r afiechyd i eraill os digwydd iddo fod yn heintus. Dillad cynnes, cyfforddus, hawdd eu golchi sydd addas. Ni ddylai plentyn sâl gael ei gadw'n rhy gynnes-gall hyn fod cyn waethed â'r gwrthwyneb ac achosi ffitiau. Dim ond digon ar y gwely i gadw'r plentyn yn gyfforddus gynnes sydd eisiau a gofalu newid dillad gwlyb neu fudr ar unwaith. Pan fo'r claf yn chwysu'n drwm gellir ei esmwytho trwy ei olchi â dwr claear. Anghenraid yw cyflenwad o hancesi papur i'w llosgi wedi eu defnyddio. Un o arwyddion cyntaf salwch mewn plentyn yw gwrthod bwyd-arwydd sy'n peri gofid mawr i lawer mam. Ond ni raid pryderu am hyn dros gyfnod o ychydig ddyddiau, cyn belled â bod digon yn cael ei yfed. Diodydd oer sydd orau fel arfer. Gellir cynnig bwydydd hawdd eu llyncu a'u treulio i'r plentyn fel y cilia'r gwres-megis hufen iâ, cwstard, jeli, pwdin llefrith, cawl neu wy. Cyn gynted ag y daw'r archwaeth at fwyd yn ôl gellir rhoi'r plentyn ar ddiet gyflawn. Wrth gwrs, mae rhai afiechydon heintus plant yn gofyn am wasanaeth y meddyg, ond mae llawer o rai eraill y gall y fam eu trin lawn cystal. Gyda synnwyr cyffredin, nyrsio yn ôl y cyfarwyddiadau a moddion syml gellid hepgor galwadau afresymol ar y meddyg a'i amser prin. Crybwyllais y cyffuriau gwrthfiotig. Dyma gyffuriau sydd wedi gweddnewid triniaeth afiech- ydon heintus yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, ac wedi concro llawer afiechyd oedd gynt yn lladd. Ond fe wneir camddefnydd ohonynt a hyn yn gam â'r claf ac yn wastraff mewn gwasanaeth iechyd sydd a'i gôst mor enfawr p'run bynnag. Gadawed i'r meddyg benderfynu'r angen bob tro.