Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cigwrthodiaeth -Ddoe a Heddiw CIGwRTHODlAETH yw'r arferiad o fwyta bwyd llysieuol yn unig. Gellir rhannu'r cigwrthodwyr yn ddwy garfan-y rhai cyffredinol a'r rhai caeth- a'r gwahaniaeth hanfodol rhyngddynt yn fater o radd yn bennaf. Y mae'r cigwrthodwyr cyffredinol yn ymwrthod â chig a physgod ond y maent yn barod i fwyta llaeth, ymenyn a wyau (am nad yw cynhyrchu'r rhain yn peri na phoen nac anghyfleus- tra i'r anifail, mae'n debyg). Y mae'r cigwrthodwyr caeth, ar y llaw arall, yn gwrthod bwyta unrhyw beth a fo'n anifeiliol ei darddiad; ni chymerant wyau na llaeth nac unrhyw fwyd a gynhyrchir o laeth. Ânt ymhellach na hyn hyd yn oed. Gwisgant esgidiau rwber yn lle rhai lledr; defnyddiant fotymau plastig yn lle rhai corn; gwisgant ddillad cotwm yn lle rhai gwlân. Gwell ganddynt siwgr brown na siwgr gwyn am mai o esgyrn y paratoir y siercol a ddefnyddir yn y broses gannu. Nid rhyfedd felly fod y cigwrthodwyr caeth yn bobl brin iawn yng ngwledydd Prydain-rhyw 120 ohonynt sydd o'u cymharu â rhyw 100,000 o gigwrthodwyr cyffredinol. Ond yn sail i ddal- iadau'r ddwy garfan fel ei gilydd yw cred ddi-sigl mewn sancteiddrwydd byd natur. Dadleuir y dylid dangos y parch eithaf tuag at fyd yr anifeiliaid yn gyffredinol ac yn enwedig trwy beidio â'u defnyddio er mwyn bodloni rhyw chwant cyntefig ar ran dynion am gael bwyta cig. I'r rhan fwyaf ohonom, syniadau braidd yn ffansïol ac od yw'r rhain-syniadau nad oes iddynt Ie ond ar gyrion cymdeithas. Yn ddiweddar, fodd bynnag, cafwyd awgrym o fwy nag un cyfeiriad fod pethau ar fin newid yn hyn o beth. Mis Mai y llynedd (1968) gwelwyd cyhoeddi'r rhifyn cyntaf o gylchgrawn newydd Plant Foods for Human Consumption.1 Bu gan y cigwrthodwyr eu cylchgronau a'u bwletinau eu hunain ers tro byd bellach, wrth gwrs, ond dyma'r tro cyntaf i gylch- grawn hollol wyddonol ei naws ddechrau ymhél â'r maes o ddifrif. A olyga hyn fod cigwrthodiaeth ar fin ennill ei phlwyf o'r diwedd fel cangen barchus o wyddon- Argymhellir defnyddio 'cigwrthodwr' yn gyfieithiad o vegetarian am ei fod yn tanlinellu seiliau moesol yr arferiad; awgrymir cadw ffurfiau megis 'llysieufwytawr' a 'bwydlysiwr' ar gyfer herbivore. R. ELWYN HUGHES iaeth uniongred? Wel ydyw-ac nac ydyw. Gwir fod gwyddonwyr proffesiynol yn dechrau ym- ddiddori mewn cigwrthodiaeth am y tro cyntaf erioed. Ond y mae byd o wahaniaeth rhwng syniadaeth y cigwrthodwr traddodiadol a'r cig- wrthodwr gwyddonol cyfoes. Cred mewn athraw- iaeth esoterig braidd a ysgogai'r naill ond rheidrwydd cymdeithasol sydd wrth wraidd dad- leuon y llall. Cigwrthodwyr cynnar Bu daliadau'r cigwrthodwyr cynnar yn rhan annatod o'u hagwedd meddwl tuag at natur bywyd yn gyffredinol. Mae'n debyg mai'r enw mwyaf adnabyddus ymhlith cigwrthodwyr cynnar yw Pythagoras. Credai ef a'i ddilynwyr mewn traws- newidiad eneidiau gan ddal fod enaid dyn (ac yn enwedig y rhai drwg) yn ymfudo ar farwolaeth i gorff anifail. I'r Pythagorydd felly, math o ganibal- iaeth ysbrydol fyddai bwyta corff anifail. Coledd- wyd syniadau cyffelyb gan rai o'r sectau Cristnogol hereticaidd a fodolai yn ystod y Canol Oesoedd. Er enghraifft, ni fwytai'r Albigenwyr o Dde Ffrainc ddim byd a ddaeth o anifeiliaid-ond bu bwyta pysgod yn dderbyniol ganddynt. Bu elfen gref o gigwrthodiaeth yn bresennol yn rhai o'r sectau uniongred hefyd. Yn ystod y ddeuddegfed ganrif cofnodwyd i'r Chwiorydd Elena a Joan o Ysbyty Tŷ Duw yn Southampton ymarfer cigwrthodiaeth2 ac yn ôl Gerallt Gymro bu holl esgobion Tyddewi hyd at amser Morgenau yn gigwrthodwyr. Lladd- wyd Morgenau gan fôr-ladron a chyn iddo farw dywedodd 'Gan imi fwyta cigoedd, yn gig y'm gwnaethpwyd'.3 Ar lefel seciwlar, fodd bynnag, ni ddaeth cigwrthodiaeth i'r amlwg yng ngwledydd Prydain tan ddiwedd y ddeunawfed ganrif. A chymysg fu'r rhesymau a gyfrifai am ei chodiad y pryd hynny hefyd. Cafwyd gan rai y dadleuon traddodiadol- fod gan ddyn ddyletswydd foesol i barchu sancteidd- rwydd byd yr anifeiliaid. Ar y llaw arall, cafwyd nifer cynyddol o bobl a gyplysodd y ddadl hon â'r gred fod bwyd llysieuol o fwy o les i'r corff na bwyd anifeiliol. Nodweddiadol o'r cyfnod hwn a'! agwedd meddwl newydd hon fu dyn o'r enw Joseph Ritson.