Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwyddoniaeth mewn Diwydiant Llun 1. Enghraifft o ymestyn metelau Cloddio gydag electronau Mae'n bosibl y gallwn cyn bo hir dyllu creigiau gyda help dyfais sy'n defnyddio pelydryn nerthol o egni ar ffurf electronau cyflym iawn. Yn ôl un o'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu'r dechneg, Dr. B. W. Schumacher o gwmni Westinghouse, 'mae'r pelydrau yn torri drwy lawer math o gerrig fel cyllell trwy fenyn'. Mae'r cyfarpar yn saethu allan belydrau o electronau sy'n edrych fe1 nodwydd wynias- dyw'r pelydryn ddim ond 1/16 modfedd mewn diamedr ac ychydig fodfeddi mewn hyd. Ar ôl datblygiad pellach hawlir y gellir defn- yddio'r ddyfais i dwnelu, i gloddio rhychau ar gyfer pibau dwr, neu mewn chwareli a phyllau glo. Mae'n debyg y bydd y cyfarpar yn gweithio'n gyflymach na dulliau mwy confensiynol, yn enwedig dan ddwr. Mae yn eitha symudol ac mae'r uned bresennol yn pwyso tua 300 pwys, gan gynnwys y gwn electronau a'i chyflenwad pwer. Defnyddiwyd pelydrau o electronau o egni cymharol isel ers amser, wrth gwrs, yn ein setiau teledu, lle y mae'r electronau yn 'peintio' pictiwr ar y sgrîn, a rhai blynyddoedd yn ô1 fe ddatblygwyd cyfarpar asio a oedd yn defnyddio pelydrau mwy nerthol. Tarddodd un o'r anawsterau cyntaf yn hanes y pelydrau nerthol yr ydym yn sôn amdanynt o'r ffaith y gellir eu defnyddio mewn faciwm yn unig. Mae'r broblem hon wedi ei datrys yn awr drwy ffurfio'r pelydryn mewn faciwm da, ac yna ei ddwyn allan drwy sawl siambr a wagheir o awyr yn barhaol. Defnydd newydd i gyrff moduron? Fe gyhoeddwyd yn ddiweddar fod tri chwmni yn y wlad hon wedi datblygu metel newydd y gellir ei foldio fel plastig. Y tri chwmni yw Pressed Steel G. P. THOMAS Fisher, Rio Tinto Zinc a Chwmni Delta Metal, ac enw'r metel, sy'n aloi yn cynnwys sinc ac aliwmin- iwm, yw 'PrestaF. Y peth pwysig ynglyn â'r aloi hwn yw'r ffaith ei fod yn or-blastig. Ni ellir gweithio'r mwyafrif o fetelau yn rhwydd iawn, ac mae hyn yn cyfyngu ar gynllun a chyn- hyrchiad rhannau i gyrff moduron, dyfeisiau i'r ty, a phethau eraill a wneir o len-fetel. Mae dur arferol yn teneuo ar ô1 ei ymestyn tua 30 y cant, ac yn torri ar ô1 estyniad o tua 50-60 y cant. Ond o dan amgylchiadau neilltuol gellir ymestyn metelau or-blastig tua 1,000 y cant (gweler Llun I), a maent yn ymddwyn fe1 defnyddiau thermoplastig, neu wydr twym meddal. Ei y gwyddid am y priodwedd o or-blastigedd yn y labordy ers rhai blynyddoedd, ac er ei fod i'w weld gydag amryw o systemau aloi dan amgylchiadau gwahanol, ni ddeëllir y peth yn hollol eto, ond credir fod meinder y grisialau yn bwysig. Nid yw aloiau yn or-blastig ond pan fydd y tymheredd tu mewn i ffiniau neilltuol, a gyda'r mwyafrif ohonynt mae'r tymheredd priodol mor uchel fel na ellir defnyddio'r priodwedd yn ymarferol. Mae'r system sinc-aliwminiwm (78 y cant Zn, 22 y cant A1) yn or-blastig pan fo'r tymheredd tua 260-270° C., ond mae yn eithaf cryf pan fo'r tymheredd yn normal — gellir cyrraedd cryfder o 20 tunnell y fodfedd sgwâr, er enghraifft. Un o broblemau technegol mwyaf y system aloi Zn-Al yw cynhyrchu llen-fetel sydd a phriodweddau trin derbyniol. Mae 'Prestaf yn cynnwys nifer o elfennau sy'n ychwanegol at yr aloi gwreiddiol, ac sydd yn ei wneud yn foddhaol at bwrpas cyn- hyrchiad ymarferol. Yn Lluniau 2 a 3 gwelir rhan fewnol drws oeriedydd, a rhan fewnol drws modur, y ddau ohonynt wedi'u gwneud o íPrestal\