Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prifysgol India'r Gorllewin yn Trinidad. Gwelir hen adeilad Coleg Amaethyddol y Trofannau yn y gornel uchaf ar y chwith Gwyddoniaeth yn India'r Goriiewin IOLO WYN WILLIAMS GAN fy mod wedi cael blwyddyn o wyliau gan y Golygydd i weithio yn y Brifysgol yma yn Trinidad rhaid imi gyflawni fy addewid a chofnodi ychydig argraffiadau gwyddonol o'r rhan ddymunol hon o'r byd. Yn gyntaf rhaid egluro cyfansoddiad Prifysgol India'r Gorllewin. Prifysgol unol ydyw yn hytrach nag un ffederal megis Prifysgol Cymru, er fod ei chanolfannau yn dra çwasgaredig; fe'i gweinyddir fel uned ac nid fel nifer o golegau annibynnol. Lleolir y cyfadrannau proffesiynol mewn un man yn unig: yr Ysgo1 Feddygol yn Jamaica a Pheirian- neg ac Amaethyddiaeth yn Trinidad. Yn Jamaica ceir dilyn cwrs anrhydedd yn y gwyddorau a'r celfyddydau, ond bellach y mae darpariaeth ar gyfer graddau cyffredinol yn y pynciau hyn hefyd yn Trinidad ac yn Barbados. Rhaid cydnabod mai cyfaddawd ydyw'r datblygiad diwethaf gan y bwriedid canoli'r gwaith yn Jamaica a sefydlu colegau celf a gwyddoniaeth ar lun y Liberal Arts College yn yr Uno1 Daleithiau yn y ddau ganolfan arall; ond y mae'r traddodiad Prydeinig yn eithriadol o gryf yn yr ynysoedd a'r ysgolion yn glynu at yr arholiadau Prydeinig. Ar hyn o bryd mae 2,512 o fyfyrwyr yn Jamaica, 1,174 yn Trinidad a 385 yn Barbados. Cefais gyfle i ymweld â'r tri chanolfan ac nid oes amheuaeth gennyf nad dyma'r Brifysgol fwyaf dymunol ei lleoliad a'i phensaern- ïaeth yn y oyd i gyd. Y mae mân diriogaethau y Caribi yn cyfrannu tuag at y Brifysgol, yr ynysoedd disglair rhwng Antigua a Grenada, ynghyd a British Honduras ar benrhyn Mecsico. Yr Adran Allanol a'r Gyfadran Addysg sy'n cynrychioli'r Brifysgol yn yr ynysoedd hyn. Rhwng tair a phedair miliwn ydyw poblogaeth yr ynysoedd i gyd: llai na dwy filiwn yn Jamaica, miliwn yn Trinidad a chwarter miliwn yn Barbados; nid oes yr un o'r ynysoedd eraill dros gan mil. Mae i'r Brifysgol le