Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwyddonydd a'r Diwinydd Addysgwyd awdur vr ysgrif hon vn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli, a Phrifysgol Caergrawnt, Ile 1 graddiodd gydag anrhydedd vn v dosbarth cvntaf. Aeth yn fyfyriwr ymchwil i labordy enwog y Carendish a chafodd ei Ph. D. yno. Y mae ar hyn o bryd yn ddarlithydd vn Adran Ffiseg Gymwysedig Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, a'i ymchwiliadau vn canolbwyntio ar broblemau tymheredd isel. GWYDDONIAETH-RHWYSTR AI CYMHELLIAD I ADDOLIAD? DYwED yr Athro C. A. Coulson yn ei lyfr Science and Christian Be/ief (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1955) ei fod yn ystyried ei waith gwyddonol yn bennaf fe1 gweithred grefyddol. (Gyda llaw, mae hyn yn ddarlun go annhebyg i syniadau poblogaidd ein dydd am y gwyddonydd wrth ei waith.) Wrth weithio yn ei faes gwyddonol ceisia Coulson 'feddwl meddyliau'r Creawdwr ar Ei ôl' ac fe1 canlyniad gwelwn fod o leiaf elfen o wir addoliad yn perthyn i'w waith. Yna, yn ei ddarlith yn dwyn y teitl Science and the Idea of God (Darlith Goffa Syr Arthur Eddington, Gwasg Prifysgol Caer- grawnt, 1958) ceir datganiad pendant iawn ganddo o'r berthynas a wêl rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Dywed, 'the result is that we shall never really understand our science until we have come to the place where we can say "In the beginning, God" (tud. 38—ni biau'r llythrennau italaidd). Ni fedr pob gwyddonydd sydd hefyd yn grefydd- wr gydweld â'r Athro Coulson yn ei agwedd tuag at ei waith. Yn aml ni all gyplysu ei grefydd a'i wyddoniaeth yn y modd yma ac o ganlyniad ceir tuedd ynddo i adeiladu ffin feddyliol rhwng y ddau. (Crefydd yn ei chyfanrwydd a olygir yma ac nid y foeseg sydd yn tarddu ohoni.) Credir fod yr un yn gwbl amherthnasol i'r llall ac fel canlyniad ceir y ddau yn llanw dwy adran gwbl wahanol o'i feddwl a'i fryd. Sut y daeth y fath agendor â hyn i fod yn yr ymwybyddiaeth wyddonol a berthyn i'n dydd? Tybed ai'r ddysgeidiaeth am 'Dduw y Bylchau' oedd yn gyfrifol am hyn? O dan y ddysgeidiaeth hon, cadwyd Ie i'r syniad o Dduw er mwyn cael ffynhonnell o esboniadau parod i'r ffeithiau am y EDMUND AUBREY bydysawd na allai gwyddoniaeth y dydd mo'u hegluro. Gydag amser ac ymdrech, aeth y bylchau yn nealltwriaeth y gwyddonwyr o'u hamgylchfyd yn llai ac yn llai-i bob ymddangosiad beth bynnag. (Ond, rhag i ni ddyfarnu'n arwynebol ynglŷn â datblygiad gwyddoniaeth yn gyffredinol, buddiol yw cofio enghreifftiau fe1 yr optimistiaeth mawr fu'n teyrnasu ym myd ffiseg ddechrau'r ganrif hon, cyn dyfodiad y galw am ddamcaniaethau chwyldro- adol byd y cwantwm!) Beth bynnag, yr oedd y gred mor gryf fod y bylchau yn y wybodaeth wyddonol yn cael eu llanw nes i wyddonwyr yn gyffredinol gael eu temtio i gredu y byddai esboniadau gan wyddoniaeth i holl ddirgelion natur maes o law. Digon hawdd gweld mai pen draw rhesymol y ddysgeidiaeth hon yw anffyddiaeth llwyr. Dyma yn wir yw safle nifer helaeth o wyddonwyr ein dydd, ond ceisiodd rhai osgoi hyn trwy fabwysiadu yr agwedd a nodwyd uchod, sef caniatáu lle i grefydd yn eu bywydau ochr yn ochr â'u gwyddoniaeth, ond heb fod nemor ddim o ddylanwad na chysylltiad rhwng yr un a'r llall. Mae'n amlwg y gellir cadw at ddau ddosbarth o ddaliadau, hyd yn oed os ydynt yn wrthgyferbyniol yn rhai o'u hagweddau, os nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau. Afiach bid siwr yw'r math yma o 'scitsoffrenia' a berthyn i lawer o'n gwyddonwyr crefyddol, a mwy boddhaol o lawer, debygwn i, yw'r agwedd gwbl gyson a ddatgenir gan Coulson, sef mai Duw yw Awdur y Cread, a'i waith ef fel gwyddonydd yw ceisio deall y drefn berffaith a osodwyd arno gan y Crewr. Nid oes yr un ffin yma rhwng crefydd gwyddoniaeth ac yn wir y mae'r safbwynt hwn yr rhoi urddas i waith gwyddonol sydd yn ychwanego i'r hyn sydd ynddo ohono'i hun.