Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Ogofau Brân Arthur E. BREEZE JONES Un o ogofau Brân Arthur DEFNYDDIR yr enwau Brân Arthur, Brân Gernyw, Brân Gochbig, Brân Goesgoch a Brân Iwerddon* am y Chough (Pyrrhocora.r pvrrhocorax), er fy mod wedi clywed rhai o hen chwarelwyr Ffestiniog yn sôn am yr aderyn fel Jacdo Pig-goch neu Jacdo'r Wyddfa. Droeon yng nghwrs blwyddyn bydd adaryddion yn galw heibio a'u bryd ar daro llygad ar y Frân Gochbig, a pha ryfedd pan gofiwn fod nifer sylweddol o'r adar yn nythu ym mynyddoedd Eryri. Yn 1963 fe wnaed cyfri o boblogaeth y Frân hon, a dangoswyd bod rhwng 700-800 0 Arferir yr enw Brân Iwerddon am y Frân Hedlyd (Hooded Crow) hefyd. t R. Rolfe, 'The Status of the Chough in the British Isles', Bird Study, vol. 13, no. 3. barau yn nythu, a thua 400 o adar ychwanegol yn cartrefu ym Mhrydain ac Iwerddont. Ymddengys bod y mwyafrif, 567-682 o barau yn Iwerddon, tua 20 pâr yn Ynys Manaw, 1 1 pâr yn yr Alban, a 98 o barau yma yng Nghymru. Cofier bod y mwyafrif ohonynt yn nythu mewn ogofau, neu mewn cilfachau yng nghreigiau'r môr, ond roedd o leiaf 42 o barau yn Sir Gaernarfon, a saith pâr arall yn Sir Feirionnydd. Gan fod y saith pâr yn nythu ym mro Ffestiniog, nid rhyfedd fod y Frân Gochbig wedi hod o ddiddordeb arbennig i mi drwy'r blynyddoedd. Digwyddiad cyffredin yw gweld pâr o Frain Cochbig yn hedfan yn isel dros y dref, neu'r carthu yng nghwmni Coegfrain a Brain eraill yn domen sbwriel. Wedi cynefino â'r adar, mae'r anodd i mi sylweddoli eu bod yn brin ai. anghyffredin mewn rhannau eraill o'r wlad.