Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwil i Fyw Dan y Môr Ar arfordir De California yn agos i ynysoedd San Clemente. y mae'r arbrofion mwyaf cynhwysfawr vn cael eu cvnnal i weld pa dechnoleg ac offer sydd yn angenrheidiol ar ddyn i'w addasu i fywyd dan v tonnau. Mae timau o wyth aquanaut yn ceisio byw am ddeuddeng niwrnod vn Sealab III o eiddo llynges vr Unol Daleithiau. Cynnwys y timau aelodau o lynghesoedd Canada, Awstralia a Phrydain, yn ogystal ag Americanwyr, yn disgyn i'r orsaf yma ar v graig gyfandirol 600 troedfedd o dan lefel y môr. Bvdd disgwyl iddynt adeiladu ac arbed, gwneud vmchwiliadau ar fywydeg y môr, ar wyddor eigioneg a dilyn profion ar ymddygiad dynol o dan vr amgylchiadau hyn. Cysylltiad lleisiol yn unig fydd rhyngddynt a'r byd uwchben. Dau aquanaut yn gweithio o amgylch Sealab III, mewn 600 troedfedd o ddŵr, 55 milltir o'r tir Model o'r orsaf ymchwil afydd yn gartref bump gwyddonydd am fisoedd mewn dyfnder o 5,500 troedfedd o ddwr