Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau A Short History of Mechanica/ Engineering gan W. F. Greaves a J. H. Carpenter. Longmans, 1969. Tud. 145. Pris 30s. Ym mhob maes technolegol, yn gyfochrog â'r proses o gynllunio sydd yn hanfodol i bob cangen (ac yn wir yn rhoi ystyr iddynt), y mae'r proses o ddadansoddi a cheisio gwell dealltwriaeth o'r ffenomenau y ceisir eu rheoli a'u defnyddio (er gwell neu er gwaeth). Yn anffodus, ym myd addysg dechnolegol uwch, bu cymaint o bwyslais ar y dadansoddi nes colli golwg yn aml ar brif amcan y technolegwr, sef yn y pen draw creu moddion i gymhwyso pwerau natur at amcanion cymdeithasol arbennig. Peth iach felly yw taflu golwg yn ôl ar ein hanes ac at y gwreiddiau y tyfodd technoleg fodern ohonynt. Wrth wneuthur hynny, trwy gyfrwng cyfrolau tebyg i'r hon sydd dan sylw, caiff yr efrydydd yn arbennig ei atgoffa o'r ysfa, nid yn unig i ddeall, ond hefyd i ddofi a defnyddio adnoddau ei amgylchfyd i'w bwrpas. Bwriadwyd y gyfrol hon i fod yn werslyfr ac yn arweiniad i hanes peirianneg fecanyddol yn fwyaf arbennig. Y mae'r pwyslais felly ar ddefnyddio grym ac egni mewn moddion dynamig, ac ar y sylweddau a wna hynny'n bosibl. Yn naturiol cawn i ddechrau benodau ar haearn a dur, eu cynhyrchu a'u cymhwyso, a'r offer a ddefnyddir i'w gweithio. Yna ceir hanes datblyg- iadau clasurol y ddwy ganrif ddiwethaf tuag at reoli a chyfeirio egni dwr, stêm, awyr, olew, nwy a thrydan. Mewn cwmpas byr ceir hanes darllen- adwy dros ben y prif ddatblygiadau hyd at flynyddoedd cynnar y ganrif hon. Cawn ein hatgoffa eto o'r camau breision a gymerwyd yn y ganrif ddiwethaf, ond ar yr un pryd telir y sylw dyladwy i dechnoleg y cyfnodau cynharach, a gwelwn gymaint oedd dyled yr enwogion megis Watt, Trevithick, y tad Stephenson a'i fab i'r medrusrwydd a seiliwyd ar brofiad canrifoedd o ymchwil a gwybodaeth empirig. Ceir arweiniad i hanes sefydlu safonau hyd, amser a phwysau, ac adran ar dwf arlunio technegol. Mewn pennod ar y crefftwr a'i peirian- nydd rhydd y llyfr fraslun o hanes y crefftwr, ei addysg a'i undebau, hyd at ymddangosiad y peiriannydd proffesiynol a'i sefydliadau cenedl- aethol. Rhan werthfawr o'r llyfr yw'r bywgraffiadau o tua ugain o beirianwyr enwog, o'r brodyr Darby hyd at Henry Ford, a fu'n gyfrifol am y camau pwysicaf yn y datblygu. Nodwedd amlwg y gyfrol yw'r llu darluniau a ddetholwyd yn bwrpasol ac yn effeithiol i oleuo'r driniaeth. Llwyddodd yr awduron i osod i lawr yn daclus fframwaith cynhwysfawr i'r ffeithiau angen- rheidiol. Y mae'r gyfrol yn haeddu sylw gofalus ym mhob cwrs addysg dechnolegol; mae hefyd yn werthfawr i osod cefndir i hanes economaidd y ganrif ddiwethaf. Y mae ynddi gyfeiriadau ddigon at y cyfrolau safonol. I Gymro yn enwedig y mae'n symbyliad i edrych eto at y rhan bwysig a chwareuwyd gan ddiwydiant y De yn y datblyg- iadau y cyfeirir atynt. Y mae diwyg y lIyfr a'i dudalennau llydan yn haeddu pob canmoliaeth ac yn gymorth mawr tuag at ei ddefnyddioldeb. J.H.H. Basic Biological Chemistry gan H. R. Mahler and E. H. Cordes. Llundain: Harper and Row, 1968. Pris 55s. Dyma fersiwn talfyredig o lyfr Americanaidd sydd eisoes wedi ennill ei blwyf fel un o'r prif lyfrau yn y maes biocemegol. Clywyd y ddadl o dro i dro, fodd bynnag, fod y fersiwn wreiddiol yn cynnwys gormod o ddeunydd ar gyfer cyrsiau rhagarweiniol ac ymgais i gwrdd â gofynion arbennig cyrsiau o'r fath yw'r argraffiad dan sylw. Ceir ynddo gyflwyniad clir a chryno i brif lwybrau metabolaidd y gell a rhoddir sylw arbennig i bynciau megis eplesau, biosynthesis prodinau ac asidau niwcleig, ffotosynthesis, metaboleg brasterau a'r prosesau rhyddhau a throsglwyddo egni. Dyma arweiniad diogel i brif feysydd biocemeg ar gyfer y rhai na fwriadant arbenigo yn y maes ond sydd er hynny yn gorfod ei astudio am flwyddyn neu ddwy. (Er hyn, bydd rhai yn beirniadu'r awduron am lwyr anwybyddu rhai agweddau pwysig megis biocemeg ymbortheg-gan gynnwys y fitaminau. biocemeg cwtogiad y cyhyrau, biosynthesis v porphyriniau ac ati.) Dyma lyfr fydd yn gaffaeliac i bob llyfrgell chweched-dosbarth; trueni nad oe fersiwn clawr medda! ar gael er mwyn galluog rhagor fyth o fyfyrwyr i bwrcasu copi. RE.H.