Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERYSTWYTH C.G.F. Newydd Digwyddiad mwyaf nodedig y tymor oedd ethol yr Athro Philip Wareing yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol (F.R.S.). Llongyfarchodd y gyfadran Wyddoniaeth a Chyngor y Coleg ef ar dderbyn yr anrhydedd hon mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau han- fodol tuag at ddatblygiad gwyddor Botaneg. Derbyniwyd y newydd gyda llawenydd digymysg gan bawb o'i gyd-aelodau o Staff y Coleg a llawer o gyfeillion o'r tu allan. Ffisioleg coed y fforestydd yw prif faes ymchwil yr Athro Wareing ac fe gyfarwyddodd astudiaeth eang ar effeith- iau nifer o ffactorau-e.e. hyd y dydd ac effaith disgyrchiant-ar dyfiant y coed ac ar eu blodeuo. Agwedd bwysig arall o'r gwaith yma oedd ymchwil ar hormonau tyfiant planhigion. Mewn cydweithrediad â'r Dr. J. W. Cornforth, F.R.S., o Gwmni Shell, darganfu'r Athro Wareing hormôn newydd, sef yr asid abscisic. Llwyddwyd i'w ynysu, ei buro a dadansoddi ei adeiladwaith cemegol. Yr hormôn yma sy'n gyfrifol am luddias tyfiant ac fe all gwybodaeth ohono arwain at ddefnyddio sylweddau cyffelyb i reoli tyfiant cnydau amaeth- yddol. Gŵr diymhongar dros ben a chym- harol swil yw'r Athro Wareing ac ni ellid byth casglu oddi wrth ei ymarwedd- iad bod dim byd arbennig wedi digwydd iddo! Hyd y cofiaf, efe yw'r pedwerydd C.G.F. yn unig ar Staff y Coleg oddi ar tua 1930. Bu mewn gyrfa arall lwydd- iannus iawn yn y Gwasanaeth Suful cyn i'w ddiddordeb mewn bywydeg ennill y dydd a newid cwrs ei fywyd. Etholwyd ef yn Ddeon y gyfadran Wyddoniaeth am y ddwy flynedd nesaf ac y mae derbyn dyletswyddau'r swydd wein- yddol-academaidd hon yn nodweddiadol o'i barodrwydd i wasanaethu'r Coleg mewn unrhyw ffordd sy'n agored iddo. Estynnwn ein llongyfarchion i wyddon- ydd dawnus ac athro uchel ei barch. Cadair Bersonol Pleser mawr yw cofnodi penodiad Dr. Mansel M. Davies, M.Sc. (Cymru), Ph.D., Sc.D. (Cantab.), Darllenydd yn yr adran Gemeg, i Gadair Bersonol gan Fwrdd Academaidd y Brifysgol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig y crewyd 'cadeiriau personol' ym Mhrif- Nodiadau o'r Colegau ysgol Cymru er bod swyddi cyffelyb yn nodweddiadol 0 huiies cynarach Coleg Aberystwyth. Penodiad Dr. Davies yw'r cyntaf yn Aberystwyth o dan y gyfun- drefn bresennol. Rhydd y 'gadair bersonol' statws athrofaol llawn i'r sawl a'i deil heb y dyletswyddau ychwanegol sydd ymhlyg mewn gweinydd iaeth adran. Brodor o Aberdâr yw Dr. Davies ac addysgwyd ef yn yr ysgol ramadeg leol cyn iddo ennill mynediad i Goleg Aberystwyth yn 1930 trwy Ysgoloriaeth Agored ac Ysgoloriaeth y Wladwriaeth. Graddiodd gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg yn 1933 ac yna derbyniodd radd M.Sc. (Cymru) yn 1935 wedi ymchwil dan y diweddar Mr. C. R. Bury yn Aberystwyth. Yna aeth i Goleg y Drindod ac Adran Gwyddor Colloid, Caergrawnt, i ym- chwilio dan gyfarwyddyd Syr Eric Rideal, F.R.S., trwy gymorth Cymrodor- iaeth Ymchwil a ddyfarnwyd iddo gan Brifysgol Cymru. Enillodd ei radd Ph.D. (Cantab.) yn 1938 ac yna derbyniodd wobr Ymchwil Uwch yr Adran Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol i'w alluogi i weithio am ddwy flynedd ymhellach yn Adran Cemeg Ffisegol, Caergrawnt, dan arweiniad Syr Gordon Sutherland, F.R.S. Y mae pawb sy'n adnabod yr Athro Mansel Davies yn ymwybodol o ddilys- rwydd a chadernid ei argyhoeddiadau. Yr oedd ac y mae o hyd yn wrth- wynebydd pendant i ryfel. Yn gynnar yn yr Ail Ryfel Byd cofrestrodd yn wrth- wynebwr cydwybodol ac yn 1940 bu raidd iddo ddewis rhwng argyhoeddiad a chyfaddawd; dewis digon hawdd ei anwybyddu'n gysurus i wr o'i gymwys- terau gwyddonol uchel ef. Glynodd wrth ei argyhoeddiadau ac aeth yn athro cemeg a ffiseg yn Ysgol Ramadeg Bethesda, Arfon, lle y gwasanaethodd am ddwy flynedd. Ni phallodd ei deyrngarwch i achos heddwch oddi ar hynny a chefnogodd ymdrechion yr Ymgyrch Diarfogiad Niwclear yn daer. Aeth hefyd i gyfar- fodydd Cynhadledd Pugwash ac ni chollodd yr un cyfle arall i ddangos ei ochr o blaid cymod. Daeth cyfle i ail-gydio mewn ymchwil yn 1942 pan aeth i Brifysgol Leeds yn Gynorthwywr Ymchwil i'r Athro W. T. Astbury, F.R.S., ym maes defnyddio'r pelydrau-X i archwilio saernïaeth ffibrau ac adeiladwaith molecylau bywydegol. Treuliodd bum mlynedd yn Leeds (y bedwaredd yn Gymrawd Ymchwil Rockefeller a'r olaf yn Gymrawd Ymchwil I.C.I.) cyn dychwelyd i Aber- ystwyth yn 1947 yn Ddarlithydd mewn Cemeg. Gwnaed ef yn Ddarlithydd Uwch yn 1954 ac yn Ddarllenydd y Brifysgol yn 1961. Ofer yw ceisio gwneud crynodeb byr o gyfraniad amryddawn yr Athro Mansel Davies i Gemeg Ffisegol. Eisoes cyhoeddodd dros bedwar ugain o bapurau safonol ar waith gwreiddiol yn y pedwar prif faes ymchwil a ganlyn: cineteg ymweithiau cemegol mewn todd- iant; astudiaethau cydbwysedd mewn thermodynameg cemegol; astudiaethau yn yr is-goch ar adeiladwaith molecylau ac astudiaethau dielectryddol ar adeilad- waith molecylau. Ei brif ddiddordebau ar hyn o bryd yw'r arbrofion dielect- ryddol a'r is-goch pell. Gellid ychwanegu at y papurau uchod ryw ddwsin o erthyglau adolygiadol sylweddol a ymddangosodd yn adrodd- iadau blynyddol neu chwarterol y prif gymdeithasau cemegol ynghyd â nifer mawr o erthyglau amrywiol ac addysgol yn Chemistry and Industry, Journal of Chemical Education, Science Progress a chylchgronau cyffelyb a chyfraniadau lluosog i Drafodaethau Cymdeithas Faraday. Y mae hefyd yn awdur neu'n rhan-awdur sylweddol saith o lyfrau. Un o'r rhain yw Hanes Datblygiad Gwyddoniaeth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1949) a ysgrifenwyd ganddo ef a'i briod, Mrs. Rhiannon Davies. Buont hefyd yn gyd-awduron cyfres o erthyglau yn Yr Athro ar 'Nwyddau ein byd modern'. Teithiodd yn helaeth a diflino i ddarlithio mewn cynadleddau a thrafod- aethau ymchwil rhyngwladol mewn canolfannau ymchwil diwydiannol a phrifysgolion yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Denodd ei fri rhyngwladol nifer sylweddol o raddedigion gwledydd tramor i Aberystwyth i'w hyfforddi ganddo yn ei feysydd ymchwil arbennig. Ânt oddi yma wedi eu symbylu gan ei feddwl treiddgar a'i syniadau gwreiddiol a chan barchu ei bwyslais digyfaddawd ar drylwyredd a chywirdeb mewn ymchwil a chyhoeddi. Aeth ar ddwy daith byd nodedig: y cyntaf yn Athro Ymchwil Ymweld i Brifysgol New South Wales yn Sydney am ddeng mis yn 1956 a'r ail yn Ymwelydd Ymchwi i Sefydliad Trydan Prifysgol Hokkaidc yn Japan am ddeng wythnos yn 1962.