Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol DIOGELU Cefn Gwlad Cymru yw thema'r rhifyn dwbl yma o Y GWYDDONYDD. Dylai'r sylw cadarnhaol a roddir i'r mater yma gan Fwrdd Gwarchodaeth Natur a'r personau amlwg sy'n eu cefnogi fod yn galondid i bawb sydd yn pryderu am yr halogi a'r hacru sydd mor amlwg mewn gwlad a thref heddiw. Hyderwn y bydd y rhifyn yn gofnod parhaol o'r hyn a wneir gan un dosbarth i ddiogelu harddwch a chynnyrch naturiol cefn gwlad. Ni raid ond edrych ar ddiffaethwch llwm y lleuad, fel y'i gwelir ar ein clawr, i brofi ein bod wedi'n breintio'n eithriadol yn y gornel fechan yma o'r cread. Yn wir, a oes posibl cael tirionach bro, heb orfod ofni daeargryn na chorwynt i aflonyddu ar ei thawelwch ? Ar adegau fel hyn byddaf yn eiddigeddus iawn o'r beirdd sy'n medru mynegi eu teimladau'n gymaint rhagorach na mi: Dihafal yw fy mro drwy'r cread crwn Ac ni bu dwthwn fel y dwthwn hwn. Diolch yn wir i R. Williams Parry am ei osod mor berffaith. Fe ddylai hefyd ein deffro i'r dylanwadau hynny sydd yn peryglu'r harddwch yma. Yn sgîl ein bywyd diwydiannol daw sbwriel o bob math, yn hylifau, nwyon a charthion soled, yn blastig ac yn fetel. Canlyniad uniongyrchol ein datblygiad technolegol ydyw, ac felly, fel y cyflyma hynny, daw y broblem yn fwy amlwg. I weld beth fydd y sefyllfa yn y wlad yma ymhen ychydig flynyddoedd, ni raid ond edrych ar y broblem yn yr Unol Daleithiau heddiw. Mewn materion fel hyn rydym yn eu dilyn, rhyw chwech i saith mlynedd ar eu hôl, ac mae'r cyfnod yn lleihau bob blwyddyn. Wedi crwydro'r cyfandir yna o'r De i'r Gogledd rwan am bum wythnos, unwaith eto fe'm harswydwyd gan y broblem yno. Bob dydd mae pob un o'r 180 miliwn sydd yn byw yno yn taflu allan 5; pwys o sbwriel. Yn 1968, er enghraifft, taflodd Americanwyr allan 55 biliwn o ganiau metel, 26 biliwn o boteli gwydr, 60 miliwn o boteli plastig a 30 miliwn tunnell o bapur. Ynghyd â'r holl geir a orffennodd eu gyrfa defnyddiol, casglwyd cymaint o sbwriel a fyddai'n llenwi camlas Panama bedair gwaith drosodd, ac amcangyfrifir y bydd y swm yma yn cynyddu dair gwaith ymhen y ddeng mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd gwerir £ 2 biliwn i gasglu'r mynyddoedd enfawr hyn o sbwriel, sydd yn fwy nag a werir ar unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall ag eithrio ffyrdd ac ysgolion. I ychwanegu at y broblem, nid yw'r cynhyrchion plastig ac aliwminiwm newydd yn dadfeilio gydag amser ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid eu storio'n rhywle am dragwyddoldeb os na ddaw rhyw oleuni o rhyw gyfeiriad. Ni ellir meddwl am y broblem newydd yma yn nhermau'r dulliau a ddefnyddiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Archwiliwyd 12,000 o fannau o amgylch y dinasoedd lle cesglir y sbwriel a chafwyd y mwyafrif mawr ohonynt yn hollol anfoddhaol a pheryglus, gyda llygod mawr a phryfaid yn cynyddu mewn drewdod gwenwynig sydd yn halogi'r dwr a'r aer. Drwy arllwys gymaint o sbwriel i fae San Francisco collwyd yn barod 250 milltir sgwâr o'r bae gwreiddiol a arferai fod yn 700 milltir sgwâr. Gwelais i bentyrrau o bysgod marw ar lannau'r llyn yn Chicago, cymaint nes bod yn rhaid cael dwsinau o'r rhawiau mecanyddol diweddar i glirio'r cyrff drewllyd oddi yno. Yn wir, fel y dywedodd swyddog iechyd wrthyf, mae'r boblogaeth hyd eu pennau gliniau mewn sbwriel, ond prin eu bod yn sylwi. Pan ddaw hyd eu clustiau yna fe fyddant yn cymryd sylw o'r broblem. Dyma'r sefyllfa sydd hefyd yn ein hwynebu ni yng Nghymru oni ddysgwn oddi wrth brofiad yr Unol Daleithiau. Nid oes unrhyw synnwyr mewn ychwanegu at ein dinasoedd nes fod pawb sydd yno yn cael eu tagu gan eu carthion, tra bod y gweddill o gefn gwlad yn wâg ar wahân i'r ychydig wythnosau a phenwythnosau pan fydd trigolion y dinasoedd yn tywallt allan i edrych am eu pleser. Gwnant ddifrod anhygoel yn ystod y cyfnodau hyn am nad oes ganddynt unrhyw ofal na theyrngarwch at y fro.