Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr unig nodyn gobeithiol hyd y gwelaf i yw'r datblygiadau gofalus sydd yn ceisio dod â bywyd a phobl yn barhaol i nifer dethol o ardaloedd cefn gwlad. Ni chredaf fod hanner digon o sylw wedi ei roddi i'r datblygiad yn y Drenewydd, er enghraifft. Dyma gynllun rhagorol, lle mae dychymyg a gofal am Gymreigrwydd a gogoniant y fro wedi cael blaenoriaeth. Fe fydd y boblogaeth bresennol o 5,500 yn y Drenewydd yn dyblu erbyn diwedd y saithdegau a darperir gwaith a chartrefi ar eu cyfer. Nid yw hyn yn ddatblygiad rhy fawr i lwyr newid cymeriad yr ardal a rhoddir blaenoriaeth i Gymry sydd eisiau dychwelyd i'w gwlad, gyda'r swyddi newydd. Mae'r tai newydd a'r gwasanaethau cyhoeddus i gyd wedi eu hasio yn gywrain i'r hen dref ac ni wnaethpwyd dim i amharu ar fwynder Maldwyn. Corfforaeth Datblygu y Drenewydd a Chanolbarth Cymru sy'n bennaf gyfrifol am y datblygiad ond rwy'n siwr na fyddai neb sydd ar y Gorfforaeth yn gwarafun i mi roi sylw arbennig i'r gwr a lywioddy datblygiad o'i gychwyn, sef Mr. Emrys Roberts. Y mae ar hyn o bryd hefyd yn un o brif gyfarwyddwyr y grwp brethynnau mwyaf ym Mhrydain, English Calico, a hefyd yn ysgrifen- nydd i'r cwmni. Gall siarad ar yr un lefel â phenaethiaid y cwmnïau mwyaf ym Mhrydain a'u perswadio i osod datblygiad newydd a dethol yn y Drenewydd. Ar yr un pryd mae yn Gymro o'r iawn ryw sydd yn sylweddoli mor hanfodol bwysig yw diogelu cymeriad arbennig Maldwyn. Mae'r cyfuniad i'w weld yn y Drenewydd newydd, fydd mi gredaf yn dangos y ffordd i ddatblygu cefn gwlad Cymru a dod a bywyd Cymreig newydd yno heb amharu ar ei harddwch. Mae ein dyled yn fawr i'r gwr diymhongar hwn, sydd mor amharod i ganu ei glodydd ei hun. Pan fydd yn ymddiswyddo o'i orchwylion masnachol mewn ychydig flynyddoedd, fe ddylai'r llywodraeth ofalu ein bod yn cael rhagor o'i amser a'i brofiad i dywys datblygiadau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru. Yn y modd yma, ynghyd â'r dulliau eraill a amlinellir yn y rhifyn hwn, mi gredaf y gellir diogelu Cefn Gwlad 1970. GLYN O. PHILLIPS Cyfarchiad Cadeirydd Bwrdd Gwarchodaeth Natur MAE'R gyfrol arbennig hon o Y GWYDDONYDD yn gyfraniad nodedig a phwysig i lenyddiaeth wyddonol sy'n ymwneud ag amgylchedd Cymru. Yn ystod y cyfnod y bûm yn Gadeirydd Pwyllgor Cymreig y Bwrdd Gwarchodaeth Natur y mae ymroddiad y staff wedi gwneud argraff ddofn arnaf. Y mae'r holl nodweddion naturiol gwahanol a welir yng Nghymru wledig yn her i ffermwyr ac eraill sy'n byw ac yn gweithio yn y wlad, i gynllunwyr a gweinyddwyr sy'n darparu polisi ac i'r rhai a ddaw i Gymru i fwynhau hamdden ac adloniant. Mae'n gysur gwybod fod y Bwrdd Gwarchodaeth Natur wedi gwneud cymaint i geisio dod o hyd i'r holl ddylanwadau amrywiol ym maes ecoleg a berthyn i'r gwaith hwn ac i'w deall. Maent wrthi'n gyson yn ceisio'r wybodaeth hanfodol yma a hefyd yn ymdrechu i'w rhoi yng nghyrraedd y rhai sy'n ei defnyddio wrth eu gwaith beunyddiol o gynllunio a goruchwylio cefn gwlad. Mae'n deyrnged ychwanegol i'r Bwrdd Gwarchodaeth eu bod mor fyw i'r angen am amlinellu yn y rhifyn hwn O Y GWYDDONYDD ganlyniadau eu gwaith a'u gobeithion am y dyfodol. Mae'r Bwrdd Gwarchodaeth Natur a Bwrdd Golygyddol Y GWYDDONYDD i'w llongyfarch ar y fenter yma sy'n gyfraniad pwysig iawn yng Nghymru i'r Flwyddyn Warchodaeth Ewropeaidd. D. W. JONES-WILLIAMS (Cadeirydd, Pwyllgor Cymru, Bwrdd Gwarchodaeth Natur)