Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfarchiad oddi wrth Tywysog Cymru BUCKINGHAM PALACE CYMERODD Bwrdd Gwarchodaeth Natur ran flaenllaw yn y gwaith o warchod cefn gwlad. Yn ogystal â sicrhau gwarchodleoedd er mwyn arbed nodweddion arbennig yr amgylchfyd naturiol yng Nghymru, maent hefyd wedi sefydlu tîm o ymchwilwyr gwyddonol sydd yn dra chymwys i ddadansoddi ffyrdd cymhleth natur. Mae eu gwybodaeth yn holl bwysig i'r sawl sydd yn gyfrifol am gynllunio a rheoli ein gwlad, hebddo ni ellir rhoddi grym i drefniadau ymarferol gwarchodaeth. Mae eu gwybodaeth yn ddefnyddiol hefyd i'r cyhoedd sydd yn ymwybodol o'r angen i cfalu am yr amgylchfyd. Y llynedd cefais y pleser o ymweld â Phrif Swyddfa a Gorsaf Ymchwil y Warchodaeth Gymreig ym Mangor i weld helaethrwydd y gwaith yma. Mae'r Warchodaeth wedi bod yn ymwybodol o'r angen i ddehongli gwyddoniaeth i'r bobl sydd â diddordeb yng nghanlyniadau eu hymchwil ac yr wyf yn ddiolchgar am y modd y maent wedi cefnogi Pwyllgor Cefn Gwlad Cymru 1970. Yr ydym yn gwerthfawrogi cymorth a chefnogaeth y Warchodaeth a mudiadau tebyg iddynt. Rwyfyn eich llongyfarch chi, ynghyd â Bwrdd Golygyddol Y GWYDDONYDD, ar y fenter bwysig hon o ddarparu cyfrif o brif nodweddion gwaith gwarchodaeth Cymru yn y Gymraeg. Mae'r rhan helaethaf o'r bobl sy'n byw ac yn ennill eu bywoliaeth yng nghefn gwlad yn deall yr iaith a chredaf fod y cylchgrawn hwn yn ddatblygiad arweiniol a chymeradwy tuag at gadarnhau y cysylltiad rhyngddynt â gwaith y Bwrdd Gwarchodaeth Natur.