Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Neges oddi wrth y Gwir Anrhydeddus George Thomas, A.S., Ysgrifennydd Gwladol Cymru PLESER o'r mwyaf yw croesawu'r rhifyn hwn o Y GWYDDONYDD a baratowyd yn arbennig i egluro gwaith y Warchodaeth Natur yng Nghymru. Daw pobl yn fwy ymwybodol o hyd ei bod hi'n hen bryd gwneud rhywbeth ar unwaith i amddiffyn ein hamgylchedd. Oherwydd bod y Llywodraeth yn gwybod yn dda am y sefyllfa hon y gwnaeth y Prif Weinidog, wrth wneud cyfnewidiadau pwysig dro'n ôl yn fframwaith y Llywodraeth Ganolog, greu peirianwaith er mwyn rhoi sylw arbennig i gynllunio amgylchedd gan gynnwys sefydlu Comisiwn Brenhinol newydd a pharhaol. Bellach y mae diogelu amgylchedd pobl yn un o nodweddion sylfaenol cynllunio. Yng Nghymru yr ydym yn hen gyfarwydd ag olion hacrwch dilyffethair diwydiannau'r gorffennol. Ond y mae gennym o hyd gefn gwlad ardderchog. Ein tasg yn y saithdegau fydd gwella'r amgylchedd trefol trwy symud y creithiau a diogelu'r nodweddion hynny sydd mor agos at ein calonnau. Y mae gweithgareddau Blwyddyn Cadwraeth Ewrop eisoes ar y gweill. Cefais fy modloni'n fawr gan y rhaglen sydd gennym yng Nghymru a hynny oherwydd ei hamrywiaeth a medr y rhai a'i trefnodd. Y mae'r Warchodaeth Natur wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith hwn drwy roi pob cefnogaeth i bobl mewn gwahanol feysydd i gymryd rhan er mwyn gwella'u hamgylchedd. Yn ogystal â hynny, y mae'r Warchodaeth fel corff o dan nawdd y Llywodraeth wedi cyflawni peth wmbredd o waith yn ei hymwneud â chadwraeth ac ymchwil ecolegol. Y mae ganddi yng Nghymru dîm o wyddonwyr gweithgar a'u llygaid ar y dyfodol, a chydweithiant yn agos â'm swyddfa wrth drafod materion fel y defnydd gorau o dir ac wrth ymgodymu â phroblemau fel llygru'r amgylchedd a chwestiynau anodd eraill. Y mae ar y gweinyddwr a'r cynlluniwr cyfoes angen cyngor yn barhaus ar agweddau gwyddonol cynllunio'r amgylchedd a'r defnydd a wneir o wahanol diroedd-sef cyngor sy'n seiliedig ar waith ymchwil ac arbrofion dibynadwy. Y mae gan y Warchodaeth gymwysterau arbennig ar gyfer rhoi cynghorion felly, ac y mae'n haeddu canmoliaeth am y mesurau a gymerwyd ganddi i gwrdd â'r galwadau hyn. Llongyfarchiadau i olygyddion Y GWYDDONYDD a'r Warchodaeth Natur yng Nghymru ar y rhifyn arbennig hwn a gynnwys gymaint a fydd o ddiddordeb i bob Cymro sy'n malio am gefn gwlad a'r problemau sydd ynghlwm wrth ei reoli. GEORGE THOMAS Y Swyddfa Gymreig Mai 1970