Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyflwyniad i Warchodaeth Natur R. ELFYN HUGHES WRTH gyflwyno yr erthyglau a ganlyn hoffwn i'r rhagymadrodd yma ddehongli y syniad cyffredinol o Warchodaeth Natur. Mae natur yn cyflwyno darlun i'n meddwl-un o goed a glesni caeau, nentydd a glannau'r môr ac adar yn byw yn rhyddid godidog y wlad, a mynyddoedd gwyllt. Ond er ei holl naturioldeb nid yw yn hollol wyllt. Mae trefn natur heddiw wedi ei effeithio a'i newid gan ddyn o gopâu'r mynyddoedd hyd glannau'r môr. Felly y mae dylanwadau'r gorffennol ar ein hamgylchfyd yn gryf iawn ac yn yr un modd y mae datblygiadau heddiw yn llunio natur cefn gwlad at y dyfodol. Rheidrwydd ymarferol yw gofalu bod datblygiadau heddiw yn y defnydd a wnawn o'r tir yn cael eu trefnu fel na amharant ar natur ein gwlad. I'r cyfeiriad yma y mae'r Bwrdd Gwarchodaeth yn gwneud nifer o ymchwiliadau ar dir, anifeiliaid a phlanhigion. Mae dau reswm am hyn, yn gyntaf-fod techneg yn datblygu'n gyflym ac y mae'n bwysig mesur a deall ei heffaith ar natur yn gyffredinol. Nawr yw'r adeg i ofalu na chaiff cynllunio diwydiannol annoeth amharu ar amgylchfyd naturiol dyn. Ac wrth gynllunio at y dyfodol rhaid cael gwybodaeth wyddonol fel sylfaen i gadarnhau, newid neu wrthod y polisïau a awgrymir. Yn ail-y mae maes eang o gyfleusterau ymchwil ym myd natur wrth law, a dylid gwneud llawn ddefnydd ohonynt er mwyn datblygiad gwyddoniaeth ei hun, ac i helpu dadansoddi problemau ymarferol. Gyda'i gefndir gwyddonol mae'r Bwrdd Gwarchodaeth Natur mewn safle i roddi gwybodaeth a chyngor mewn achosion arbennig. Cadwn gysylltiad â'r wlad yn gyffredinol trwy swyddogion lleol sydd yn gyfrifol am wneud defnydd o wybodaeth ffrwyth ymchwil ac am esbonio materion ymarferol. Fe welir oddi wrth yr erthyglau a ganlyn ehangder maes ein diddordebau, o fyd llysieuaeth, swoleg, daeareg ac astudiaethau pridd i effeithiau'r tywydd. Mae Eryri yn ganolfan llawer o'r ymchwiliadau hyn oherwydd ei hagosrwydd at y ganolfan ym Mangor, a hefyd y cymhlethdod a geir ym mhob adran o'r diddordebau gwyddonol. Mae yma hanes dylanwadau cynnar dyn ar natur ar hyd y canrifoedd. Rhydd astudiaethau yn y maes hwn gefndir hanesyddol i waith gwyddonol heddiw. Gwybodaeth, addysg a chymwyster ymarferol yw sylfaen athroniaeth gwarchodaeth natur, ac o fewn y telerau yma mae gwyddonwyr yn ceisio ymateb i ofynion gwleidyddwyr a chynllunwyr. i roddi trefn ar ddatblygiadau er gwarchod ein gwlad at y dyfodol.