Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dr. R. Elfyn Hughes UN o Ffestiniog yw'r Dr. R. Elfyn Hughes ond symudodd i Fangor yn fuan yn ei fywyd, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol y Friars a Choleg y Brifysgol. Graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Llysieueg ynghyd â Llysieueg Amaethyddol. Enillodd wobr Sir Alfred Lewis mewn bioleg, a gyda chefnogaeth ei athro, y diweddar Dr. R. Alun Roberts, aeth ymlaen i wneud ymchwil i hanes defnydd tir yn Nyffryn Conwy. Oherwydd ei allu a'i ddiddordeb, fe gynigiwyd iddo efrydiaeth hanesyddol Lloyd George, anrhydedd arbennig ac anghyffredin i wyddonydd ei derbyn, ond daeth yr Ail Ryfel Byd i'w rwystro. Bu'n ddarlithydd a chyfarwyddwr ar broblemau adnewyddu tir a hadu tir glas yng Ngogledd Cymru. Symudodd i ddarlithio i Goleg Clare, Caergrawnt, lle enillodd y radd o M.A. Yn fuan wedyn cwblhaodd ei waith at ei ddoethuriaeth. Mae ei gariad at fynyddoedd ei wlad yn fawr iawn, ac mae'n hoff o ddringo a llysieua o amgylch ei hen gynefin ar y Moelwyn a'r Eryri. Mae ambell lwybr serth y dringfeydd caletaf wedi eu henwi ar ei ôl, gan mai ef oedd y cyntaf i'w dringo. Mae naws arloeswr ynddo'n naturiol, ac yn y flwyddyn 1953 fe'i penodwyd yn Swyddog Gwarchod cyntaf Cymru o dan y Bwrdd Gwarchod- aeth Natur. Nid oedd gwaith o'r math yma wedi ei wneud o'r blaen, ac arno y disgynnodd y cyfrifoldeb o chwilio am leoedd addas i'w nodi fel mannau o ddiddordeb gwyddonol arbennig, a sicrhau y gwarchodleoedd sydd heddiw mor amlwg yng ngweithgareddau y Warchodaeth yng Nghymru. Ar yr un pryd yr oedd yn gyfrifol am ddatblygu gwaith gwyddonol, a phan sefydlwyd canolfan ymchwil yn 1960, daeth yn Gyfarwyddwr dros Gymru, ei swydd bresennol. Mae wedi teithio llawer yn ystod ei yrfa, ac mae ganddo gysylltiadau eang ag Ynys yr Iâ, yr Almaen, Ffrainc, a'r Iseldiroedd. Bu ym Mhrifysgol Berkeley, California, fel darlithydd o dan nawdd y Kearney Foundation, ac mae allan yno yr haf yma fel Athro Regius mewn Ecoleg. Yn 1969 fe'i urddwyd yn Athro Anrhydeddus Prifysgol Cymru fel cydnabyddiaeth o'i allu a'i waith mewn ecoleg. Bu yn ysgrifennydd Cymdeithas Ecolegol Prydain am gyfnod o chwe mlynedd (1950-56), a galwodd llawer o bwyllgorau sy'n ymwneud â materion cefn gwlad am ei wasanaeth. Bu yn aelod o banel yn astudio defnyddio tir o dan adran Addysg a Gwyddoniaeth y Llywodraeth. Mae yn aelod o bwyllgor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn cefnogi llawer o faterion cynhwysfawr yn ymwneud â diogelu a gwella ardaloedd a safle trigolion yr ardaloedd hyn. Mae ei athrylith a'i ddylanwad yn gryf iawn ar faterion ecolegol a gwarchodaeth, a llawer o'i syniadau cynnar yn dal i fod yn ganolfan ymchwil- iadau mewn llawer man. Cred heddiw ym mhwysigrwydd ei waith, ac mae o'r farn y dylai gwyddoniaeth ac ecoleg fod yn rhan anhepgor o gynllunio datblygiadau cefn gwlad. Gwêl y Warchodaeth yn datblygu yn fwyfwy fel cyfundrefn yn cysylltu ymchwil a'r addysg a geir ohoni gyda materion ymarferol cynllunio a gwarchod at y dyfodol. I. ELLIS-WILLIAMS