Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwarchod yr Amgylchfyd- Problem Ryngwladol TOM PRITCHARD Aelodau o'r Pwyllgor dros Gymru (Cefn Gwlad, 1970) yn Eryri: Dr. R. Elfyn Hughes, R. E. Boote, Charles Quant, Dilwyn Miles, Dr. Tom Pritchard (Ysgrifennydd), Y Tywysog Charles (Cadeirydd), Co!. W. R. Crawshay, Arglwydd Harlech, Ednyfed Hudson Davies, Col. M. Morrey Salmon, C. H. C. Cooper, Athro Huw Morris Jones, Athro P. T. Thomas, Dr. Margaret Davies, Col. J. F. Williams-Wynne Dywedir nad oes grym all goncro syniad sydd yn aeddfed i'w oes, ac fel llawer o syniadau eraill o bwys i gymdeithas, bu gwarchodaeth natur yn araf ar y ffordd. Wedi hir gynllunio a breuddwydio, er troad y ganrif, gydag aml air a gweithred a dyfalbar- had, ffrwythlonodd y syniad o warchod amgylchedd naturiol y wlad pan ffurfiwyd y Warchodaeth Natur a'r Comisiwn Parciau Cenedlaethol ym 1949. Heddiw, maent yn gymdeithasau cynhwysfawr, yn gweithredu er lles yr amgylchfyd a budd y wlad yn gyffredinol. Maent hefyd wedi symbylu datblygiad llawer o gymdeithasau eraill sy'n ymwneud â'r wlad ac yn cymryd rhan flaenllaw yng ngwaith cadwraeth. Hanfod gwarchodaeth ydyw ymwybyddiaeth o'r amgylchfyd a chyfrifoldeb dyn tuag ato. Bellach mae llu o bobl yn deffro i'r ffaith fod dylanwadau ar waith sy'n niweidio'r amgylchedd y mae dyn yn rhan ohono, ac fod angen gwneud rhywbeth, nid yn unig yng Nghymru, ond drwy'r byd i gyd, i ofalu na ddirywia'r amgylchfyd i'r fath raddau fel na all dyn fyw ynddo. I'r diben yma y bu i Dduc Caeredin alw cynhadkdd ym 1963 pan ddaeth cynrychiolwyr o dros gant o fudiadau at ei gilydd, rhai â diddordebau amaethyddol, rhai â diddor- debau helwriaeth, coedwigaeth, addysg ac eraill, y cyfan, beth bynnag, yn ymwneud â, ac yn ym- ddiddori yn, amgylchfyd cefn gwlad. Bu'r gyn- hadledd yn llwyddiant mawr ac yn fodd i ddwyn at ei gilydd gymdeithasau a fu yn hollol annibynnol, os nad yn elyniaethus, trwy eu hargyhoeddi fod gwarchodaeth yr amgylchfyd yn rhywbeth a oedd yn hanfodol ac yn holl-bwysig iddynt i gyd. Bu ail gynhadledd ym 1965 i ystyried pa fcdd y gellid gweithredu'n ymarferol ar broblemau