Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Bwrdd Gwarchodaeth Natur yng Nghymru B. DUCKER A G. HOWELLS Rhai o bamffiedi'r Bwrdd Gwarchodaeth Natur MAE sôn am warchod amgylchfyd yn destun cyfoes, ond mae y syniad o geisio argyhoeddi dyn am bwysigrwydd yr amgylchfyd a'i wneud yn ymwybodol ohono wedi bod yn poeni llawer o bobl ers amser maith. Yn wir, gellir dweud mai trwy ddylanwad arloeswyr gwyddonol y daeth y pwyslais a roddir heddiw ar yr amgylchfyd i fod. Mae gwleidyddwyr, diwydianwyr a chynllunwyr bellach yn rhoddi pwyslais mawr ar yr angen i amddiffyn naturioldeb ein gwlad. Er oes y Chwyldro Diwydiannol pan oedd ysbwriel a defnyddiau niweidiol yn cael eu harllwys dros y tir, mae pwysau datblygiadau diwydiannol y wlad wedi cynyddu'n enfawr. Yr oedd llwyddiant economaidd yn fwy pwysig yr adeg honno na rhoddi trefn ddoeth ar ddefnydd tir. Mae'r eang- derau o lwch a ffurfiwyd drwy or-amaethu tir gwenith canolbarth America yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn enghraifft glasurol o ddrwg ddefn- yddio tir, yn wir, yn Yellowstone, yn yr Unol Daleithiau, y bu'r symudiad cyntaf i geisio arbed rhannau o'r wlad pan ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol cyntaf ym 1894.