Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwarchodleoedd Natur *ALLT RHYD Y GROES, Sir Gaerfyrddin (153 erw). Coedwig dderw, gyda mwsogl a Ilysiau'r afu anghyffredin. CADER Idris, Sir Feirionnydd (969 erw). Gwarchodle fynyddig sy'n ddiddorol yn ddaearegol gyda llawer math o amgylchedd ecolegol a thyfiant, yn eu mysg blodau yr Arctic Alpau. Llwybrau i'r Wyddfa: Llwybr y Chwarelwr yw'r isaf a Llwybr Pen-y-gwryd (P.Y.G.) ar y dde *CoED CAMLYN, Sir Feirionnydd (157 erw). Coedwig dderw. Ar dir sur a mesur cymharol uchel 0 law (70-80 modfedd). Mwsogl, llysiau'r afu a gwair rhos yn gyffredin. *CoED CYMERAU, Sir Feirionnydd (65 erw). Coedwig dderw ar dir sur bas a mesur uchel 0 law (80-90 modfedd). Mwsogl, llysiau'r afu a gwair rhos.