Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwil Ecolegol ar Warchodaeth yr Amgylchfyd HYD yn ddiweddar iawn, mae ymchwil wyddonol ar yr amgylchfyd wedi bod, mwy neu lai yn ddadan- soddol ei natur, hynny yw, torrwyd yr amgylchfyd i lawr i'w rannau dadansoddol a gwnaethpwyd astudiaethau annibynnol o'r rhannau hynny. Mewn gwyddor ecoleg, cafwyd addewid o fedru ystyried natur yn ei gyfanwaith, ond mae hyn hefyd yn tueddu i ymrannu yn ddisgyblaethau megis ecoleg anifeiliaid, ecoleg planhigion neu ecoleg ffisiolegol. Yn ami fe rennir y disgyblaethau hynny wedyn ymhellach i dacsonomeg, bacterioleg neu hyd yn oed saerniaeth fanwl celloedd. Er ei fod yn beth da i'r dull dadansoddol hwn barhau (ac yn wir mae corff mawr o wybodaeth wyddonol yn ganlyniad iddo) eto, yn ystod y blynyddoedd diweddar ail-ddeffrowyd diddordeb yn yr am- gylchfyd yn ei gyfanrwydd. Mae dulliau sy'n cyfuno gwahanol ddisgyblaethau yn datblygu, gyda thîm o arbenigwyr yn ymchwilio i broblemau ecolegol. Cyfundrefn ecolegol Er fod y syniad yn hyn na hynny, Syr Arthur Tansley oedd y cyntaf, ym 1935, i awgrymu'r term cyfundrefn ecolegol i ddisgrifio'r gwahanol gyd- rannau o'r amgylchfyd yn eu crynswth. Ystyrir y gyfundrefn ecolegol gan lawer yn awr, fel y brif uned weithredol mewn ecoleg. Mae'n cynnwys dwy brif ran, sef y rhan fiotig (cymdeithasau planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys dyn) a'r rhan abiotig (craig, pridd, dwr, awyrgylch ac egni heulol) gyda'r naill yn effeithio'n drwm ar y llall. Mae'r syniad o'r gyfundrefn ecolegol yn un eang ac mae'n debyg mai ei phrif ddiben yw canol- bwyntio ystyriaethau ac arbrofion gwyddonol a chyd-berthynas y cydrannau. Gellir ystyried llyn bach, neu hyd yn oed goedwig o filoedd o erwau yn gyfundrefn ecolegol. Gall cyfundrefn ecolegol gynnwys nifer o gymdeithasau o anifeiliaid a phlanhigion gyda thir coediog, tir glas, cors, ac, o bosibl, ddwr agored. Yn aml fe elwir pob un o'r rhain yn gynefin. Medrwn dorri'r rhan fiotig (neu'r rhan fyw) o gyfundrefn ecolegol i lawr i gydrannau gweithredol sydd, fel arfer, ar wahân mewn gofod ac mewn D. F. PERKINS amser. Dyna'r cynhyrchwyr, yr organebau hunan- gynhaliol (autotrophig), sydd, ar y cyfan yn blanhigion gwyrdd. Maent yn defnyddio egni golau'r haul, ac elfennau syml inorganig o'r pridd a'r awyrgylch i greu defnyddiau cymhleth fel y carbohidrau a'r siwgrau trwy'r broses photo- synthesis. Mae math arall o organebau (hetero- trophig) yn dibynnu ar organebau eraill am eu bodolaeth, a gelwir y rhain yn fwytawyr a braenarwyr. Ar y cyfan, y bwytawyr yw'r anifeiliaid sy'n bwyta organebau eraill (defaid yn bwyta'r glaswellt ac anifeiliaid rheibus yn bwyta anifeiliaid eraill). Y braenarwyr yw'r ffyngau a'r bacteria sy'n torri'r cyfansoddiadau cymhleth o sbwriel ac anifeiliaid a phlanhigion marw i lawr, gan amsugno rhai o gynhyrchion y torri lawr, ac yn rhyddhau sylweddau syml, y gellir eu defnyddio unwaith eto gan y cynhyrchwyr. Mae newid mewn unrhyw gydran unigol o'r gyfundrefn ecolegol yn gallu effeithio ar y gyfun- drefn gymhleth ryngweithredol. Mae aflonyddiad yn newid cydbwysedd y gyfundrefn ecolegol. Os mesurir rhai paramedrau cyn, ac ar ôl, yr aflonydd- iad, gellir gwneud rhai casgliadau ynglýn ag adweithiadau'r gyfundrefn sy'n arwain i ddealltwr- iaeth well o'r gyfundrefn ecolegol a'r amgylchfyd y trigwn ynddo. Cyfundrefn ecolegol ucheldir Cymru Fe drefnir ymchwil Bwrdd Gwarchodaeth Natur Cymru trwy grwpiau o wyddonwyr sydd â diddor- deb mewn cynefinau arbennig. Mae'r rhain yn cynnwys tir coediog, tir gwlyb, rhosdir isel a thir glas, y glannau a'r ucheldir. Mae dros 60 y cant o Gymru dros 500 troedfedd uwch lefel y môr. 40 y cant dros 800 troedfedd a 27 y cant dros 1,000 troedfedd. Mae llawer o ucheldiroedd Cymru yn borfa i ddefaid. Mae cynefin yr ucheldir felly yn un o brif adnoddau amgylchfyd Cymru. Addas yw bod pencadlys y tîm tir glas cynefin mynyddig. sydd a'i waith yn ymdrin ag ecoleg yr ucheldir, yr sefydliad ymchwil Bwrdd Gwarchodaeth Natur Cymru, ym Mangor.