Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwiliadau Pridd Mae natur a dosbarthiad y gwahanol fathau o bridd yn effeithio ar ddosbarthiad y cymdeithasau 'naturiol' o blanhigion a'r anifeiliaid a gysylltir â'r tyfiant, ac mae yn un o'r ffactorau pwysicaf sy'n rheolfr defnydd a wneir o dir fel ag y mae neu fel y gellir ei newid. Mae Adran Pedoleg (h.y. astudiaethau pridd nad ydynt yn ymwneud â bioleg nac amaeth) y Warchodaeth Natur ym Mangor yn gwneud ymchwil er ychwanegu at ein dealltwriaeth o wahanol ffactorau sydd yn rheoli ffurf pridd. Hefyd gwneir ymchwiliadau i adwaith ecoleg a phridd ar ei gilydd, ynghŷd â nodweddion ffurf cemeg a mineralau pridd. Er fod cyfrifoldeb yr adran yn ymestyn dros wledydd Prydain, yn yr erthyglau a ganlyn rhoddir golwg ar ddwy agwedd o'r gwaith yng Nghymru. Gellir diffinio'r broblem feì un o ymchwil i'r berthynas rhwng y priddoedd a'r amgylchfyd. I wneud hyn mae'n of ynnol ymgymeryd ag astudiaethau eang ar randiroedd cyfan—a hefyd ar fannau arbennig, fel y Gwarchodleoedd Natur, gan ymchwilio'n fanwl i nodweddion y pridd trwy waith allan ar y maes ac yn y labordai sy'n cynnwys defnyddio technegau y pelydrau-X, mìcroscopig a chemegol. Mae'r ddwy erthygl a ganlyn yn edrych yn gyffredinol ar y gwaith gan gofìofod holl lefelau yr astudiaethau yn ddibynnol ar ei gilydd er mwyn caei dealltwriaeth gwell o'r priddoedd a'u dylanwad. Dosbarthiad Priddoedd Cymru Rhagymadrodd TUA 8,016 milltir sgwâr yw arwynebedd Cymru, ac yn yr ehangder yma ceir cymhlethdod o wahanol briddoedd sydd wedi deillio o adwaith llawer math o graig, amrywiaeth o uchder tir, 0 lefel y môr i gopa'r Wyddfa (3,561 troedfedd), gwahanol effeith- iau tywydd, y defnydd a wnaed o'r tir ar hyd yr oesau ac effeithiau tyfiant naturiol y wlad. Wrth ymchwilio'n fanwl mae'n bosibl gweld math o batrwm cyffredinol yn nosbarthiad priddoedd Cymru sy'n rhoi darlun dealladwy. Rhoddwyd Cymru gan yr Athro G. W. Robinson, Coleg y Brifysgol, Bangor, ar y blaen mewn astudiaethau ffurf a dosbarthiad pridd yn ystod y tridegau, ac efe oedd yr arloeswr amlycaf yn yr adran yma o wyddor y pridd. Ehangwyd llawer ar ei waith ers 1946 drwy'r 'Arolwg Pridd Cymru a Lloegr', astudiaethau'r colegau ym Mangor, Aber- ystwyth, ac Abertawe, Gwasanaeth y Cyngor Amaethyddol Cenedlaethol a Bwrdd Gwarchod- aeth Natur. Mae amlinelliad o hanes astudiaethau'r pridd eisoes wedi ei gyhoeddi yn Y GWYDDONYDD (1964, tud. 122-25) gan Mr. Evan Roberts (N.A.A.S.). D. F. BALL Y cefndir ffisegol Mae daearyddiaeth Cymru wedi ei ddisgrifio'n gyffredinol mewn gwaith wedi ei olygu gan Bowen (1957), ond buddiol fyddai amlinellu rhai agweddau yma. Yn ddaearegol y ffactorau pwysicaf mewn perthynas â'r priddoedd yw, yn gyntaf, fod y rhan fwyaf o graig sylfaenol y wlad yn perthyn i'r Oes Balaeosoaidd, ac yn ail, effeithiau arbennig Oes y Rhew. Craig o shâl waddodol (sedimentary shale) di-galch yw y rhan fwyaf o graig sylfaenol y wlad, ac mae'r ystyriaeth gyffredinol a ddilyn yn ymdrin â phriddoedd sydd wedi deillio o'r math yma o graig. Yr oedd effeithiau erydiad y rhew a symud- iadau y creigiau a'i ysbwriel yn ystod yr amser yma wedi trefnu llediad y fantell o'r mater rheiniol yr oedd pridd yn cael ei greu ohono. O ystyried dosbarthiad creigiau yng Nghymru gwelir fod craig metalorphig y cyn-Gambriaidd yn amlwg yn sir Fôn. Yn ystod yr Oes Gambriaidd gosodwyd i lawr waelodion mydlyd a thywodlyd gyda lafa o'r llosg-fynyddoedd fel sydd i'w cael ar gromen Harlech ac yng ngorllewin Arfon. Yr oedd y digwyddiadau folcanig yn ystod yr oes ganlynol,