Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae ffurf y wlad yn effeithio ar ddosbarthiad y priddoedd trwy effaith uchder ar fesur y glaw a hefyd gwahaniaethau mesur gerwinder llethrau. Mae'n bosibl cael olyniaeth lle mae priddoedd o wahanol raddau o gyflenwad dwr wedi eu cysylltu â gwahanol fatn o lethr. (Gweler erthygl M. Hornung sy'n disgrifio gwahaniaethau lleol yn nosbarthiad priddoedd.) Mae felly gysylltiad bras rhwng yr unedau mapio a'r tywydd gyda gwahaniaethau yn yr uchder, Dosbarthiad Priddoedd un o Ardaloedd Eryri Mae Dr. D. F. Ball yn ei erthygl wedi rhoddi darlun cyffredinol o ddosbarthiad priddoedd Cymru a dangos y cysylltiad sydd rhyngddynt â rhai ffactorau yn yr amgylchfyd. Hoffwn yn yr erthygl yma roddi braslun o astudiaeth leol a wnaed mewn ardal yn Eryri, sef y llethrau a'r tir o gopa'r Wyddfa i lawr at bentref Llanberis. Cefndir daearegol Creigiau Cambriaidd ac Ordoficaidd yw sylfaen ddaearegol yr ardal. Heddiw maent yn greigiau caled sydd wedi deillio yn wreiddiol o waelodion a osodwyd i lawr ar wely'r môr. Wedi cyfnod o symudiadau a phlygiadau tir newidiwyd y graig feddal wreiddiol yn lechen a grit. Yn yr oes ganlynol, yr Ordoficaidd, rhoddwyd creigiau eraill i lawr, ond tywodfeini a llechi caled oeddynt wedi eu cysylltu â chreigiau folcanig a ffurfiwyd yn wreiddiol fel lafau neu ludw o fynyddoedd llosg yr oes. Mae'r creigiau folcanig hyn i'w cael fel haen galed asid a elwir rhyolite, neu fel craig fwy meddal a chalchog yr effeithir arni gan hindreuliad. Dengys y map (Ffig. 1) ddosbarthiad y creigiau yma yn yr ardal gan roi darlun o effeithiau symud- iadau, plygiadau, ac erydiad y tir yn ystod y mesur y llethrau a'r mater rheiniol. Yng ngoleuni y wybodaeth yma gall astudiaethau mwy manwl ehangu ein gwybodaeth a'n galluogi i roddi dehongliad cywirach o'r patrwm cyffredinol a geir yn yr erthygl yma. CYDNABYDDIAETH I Soil Surrey of England and Wales am eu caniatâd i ddefnyddio sylwadau o'u harchwiliada ddefnyddiryn Ffig. 1 a 2. M. HORNUNG 440 miliwn blynedd er pan y daeth yr Oes Ordific- aidd i ben. (Mae'r map wedi ei symleiddio o waith Williams (1927), D. Williams (1930) a Shackelton (1959).) Mae craig llechen Llanberis yn ymwthio allan ar ymylon gogleddol yr ardal ac yn cael ei dilyn gan dywodfeini caled (grit) ac yna'r creigiau o lechi Ordoficaidd sydd i'w cael helaethaf mewn darn eang yng nghanol yr ardal. Mewn llinell sy'n rhedeg o'r Garn yn y gogledd trwy Gwastadnant a Chwmbrwynog i Rhyd-ddu, dilynnir y creigiau o lechi a grit gwaelodol gan graig folcanig. Mae y rhan fwyaf ohonynt wedi eu ffurfio o lafa (rhyolite) neu ludw rhyolitig, ond uwch ben Cwm Idwal, a'r cymoedd i'r gogledd o'r Wyddfa, ceir craig feddalach a chalchog sydd yn hindreulio'n rhwydd a elwir yn pumice tuffs. Mae rhai ymwth- iadau cymharol fychan i'w cael o graig igniaidd, fel yr ithfaen ger Bwlch y Cywion, a chreigiau mwy calchog, dolerite. I hwyluso'r drafodaeth yn nes ymlaen mae'n well sôn am y cylch sydd yn cynnwys y grit, llechi a'r tywodfeini fel y cylch gwaelodol (sedimentary province), a sôn am y mannau lle mae'r lafa a'r lludw folcanig fel y cylch igniaidd (igneous province).