Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwil ar Ddefnydd Tir yn Amgylchfyd yr Ucheldir Ar hyn o bryd gellir canfod amryw dueddiadau i newid defnydd tir yn yr amgylchfyd Cymreig. Y mae'r newid mewn amaethyddiaeth, y prif ddefnydd tir, i'w briodoli i raddau helaeth i dueddiadau economaidd cenedlaethol. Y mae hyn yn effeithio ar yr amgylchfyd trwy leihad mewn goruchwyliaeth tir a hefyd trwy dyfu planhigion mewn rhandiroedd a fu gynt yn borfeydd. Gesyd coedwigaeth fasnachol a diogelu dwr mwy o alwadau ar y tir sydd ar gael. Ceir gwrthdaro weithiau rhwng y gofynion am ddefnydd tir i un o'r ddau bwrpas yma â'r gofynion am gadw tir amaethyddol. Y mae lledaeniad trefol yn ymryson hefyd am lawr daear. Y mae'r cynllun i gael trefi newydd yn gofyn am ddarnau helaeth o dir ymhell o ganol- fannau presennol y boblogaeth. Mae hefyd dueddiad i leoli datblygiadau diwydiannol ym mhrif randiroedd amaethyddol Cymru, ymhell oddi wrth ganolfannau diwydiannol presennol. Mae gorsaf gynhyrchu trydan yr Wylfa a datblygiadau eraill sy'n deillio ohoni yng ngogledd Môn, yn enghreifftiau o'r nodwedd hon. Y mae cynnydd yn y defnydd a wneir o dir cyhoeddus i weithgareddau adloniadol, ond ar y cyfan ychydig iawn o effaith a gaiff y defnydd hwn ar y defnyddiau eraill a grybwyllwyd uchod oherwydd, yn gyffredinol, ni ddefnyddir tir er mwyn adloniant yn unig. Fodd bynnag, lle bo adloniant ar raddfa eang, fel ar yr Wyddfa ac yn ardaloedd glannau'r môr, geill gwrthdaro difrifol ddigwydd, yn uniongyrchol trwy draul ar yr amgylchfyd a thrwy effeithiau anuniongyrchol megis ysbwriel, fandaliaeth, ac ymddygiad difeddwl. Yn olaf y mae rhandiroedd eang o ucheldir Cymru o ddiddordeb gwyddonol mawr, ac mae gwarchodaeth rhandiroedd o'r fath yn dod yn fwy a mwy angenrheidiol fel y mae'r pwysau ar yr amgylchfyd yn cynyddu. Y mae effeithiau y tueddiadau hyn mewn defnydd tir ar yr amgylchfyd a'r gwrthdaro rhwng gwahanol ddiddordebau wedi codi nifer o brob- lemau a arweiniodd y bobl sy'n gyfrifol am A. BUSE gynllunio cefn gwlad Cymru i ofyn cyngor gan ecolegwyr. Y mae darparu gwybodaeth am yr amgylchfyd yn hanfodol i rwystro dirywiad yn yr amgylchfyd Cymreig, ac y mae o bwys ein bod yn alluog i roi cyngor o'r fath pan ofynnir amdano. Agwedd ecolegol defnydd tir Ystyrir yn gyffredinol amgylchfyd naturiol yn radd arbennig mewn olyniaeth ecolegol. Er eng- hraifft, y mae coetir yn uchafbwynt yr olyniaeth: tundra -> tir glas -> coed bach -> coetir. Nodwedd olyniaeth fel hyn yw fod y graddau cynnar o amrywiaeth gyfyng, cnwd isel a chynnyrch uchel, ac y maent yn gymharol ansefydlog, tra bo gan y graddau eithaf amrywiaeth eang, cnwd uchel a chynnyrch isel, ac y maent o natur sefydlog. Y mae cymhlethdodau rhwng y gwahanol organebau yn cynyddu fel y datblyga'r olyniaeth; daw'r cadwyni bwyd yn fwy gweog o hyd. Gellir cymharu diwylliannau unffurf amaeth- yddol a graddau cynnar olyniaeth ecolegol, a phe gwneid i ffwrdd â'u goruchwylio, buasent yn mynd ymlaen tuag at yr uchafbwynt-coetir. Y mae cnydau amaethyddol unffurf yn ansefydlog, nid oes iddynt barhad ond trwy oruchwyliaeth. Mae clefydau yn effeithio ar gnydau unffurf, ond ffynna rhain oherwydd yr unffurfioldeb, mewn cyfundrefn ecolegol naturiol buasai amrywiaeth y llysieuaeth yn atal ffynniad unrhyw fath o glefyd. Felly, mae cyfundrefn gymhleth uchafbwynt olyniaeth ecolegol yn fwy sefydlog. Y mae'n bwysig felly i ystyried sefydlogrwydd yr amgylchfyd pan gynllunir defnyddio tir. Lle mae'n bosibl gallai'r dewis o amrywiol ddefnydd neu gyfundrefnau aeddfed gynyddu sefydlogrwydd yr amgylchfyd. Yn ychwanegol at broblemau sefydlogrwydd, cyfyd cwestiwn cydbwysedd rhwng y gwahanol ddefnyddiau tir. Os tuedda un math o ddefnydd tir i flaenori, gall amharu ar y gyfundrefn ecolegol oherwydd fod rhai organebau yn symud i amgylchfydoedd eraill. Y mae llygriad dwr ac aer yn enghreifftiau lle methodd yr amgylchfyd ag ymgodymu â defnyddio gwastraff o gyfundrefnau