Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymchwil ar Gadwraeth Adar yng Nghymru Mлε adar Cymru, fel rhai pob gwlad, yn rhan hanfodol o'i natur-maent yn nythu a magu, preswylio am ychydig, ymfudo a dod yn ôl i'w cynefin yn rheolaidd, ac ni all neb feddwl am gefn gwlad heb adar. Maent yn perthyn i bron bob math o amgylchfyd sydd gennym, rhai wedi cynefino ar yr ucheldir, eraill hyd glannau'r môr. Mae rhai yn arbennig i afonydd a chorsdir, eraill i wrychoedd a choedwigoedd, ac eraill eto yn cynefino ymysg adeiladwaith dyn. Mae poblogaethau adar yn perthyn i'r gwahanol gynefinoedd hyn-cynefinoedd sydd i raddau helaeth iawn o dan ddylanwad dyn. Mae effaith dyn ar ei amgylchfyd er yr oesoedd cynnar wedi newid llysieuaeth ardaloedd, a'r adar, o'r herwydd, wedi cyfaddasu eu hunain i raddau helaeth i'r newid yma. Yn aml newidia amgylchedd yn sydyn. Ceir sychu corsydd, coedwigo gweunydd y mynydd, chwalu gwrychoedd a thrin y tir. Mae'r holl newidiadau hyn yn effeithio ar fywyd yr adar. Felly, os am roddi grym i waith gwarchod adar ein gwlad, rhaid deall sut y mae adar yn dibynnu ar eu gwahanol amgylchedd, a'r newid yn eu poblog- aethau fel y cynydda effeithiau allanol arnynt. Gadewch i ni felly fwrw golwg ar rai o'r mannau lle trig adar ein gwlad, a'r cyfnewidiadau all ddigwydd i effeithio ar fywyd yr adar. Yr ucheldir Trwy dechneg modern peirianwaith, amaeth a fforestwaith gall dyn yn awr ddefnyddio ucheldir Cymru fel cyflenwad o adnoddau. Ceir mwy o ddefaid yn pori ar y llethrau a therfyn y coedwigo'n mynd yn uwch i ateb anghenion y wlad, tra mae'r alwad am ragor o ddwr i ganolfannau poblog yn troi ambell gwm yn yr ucheldir yn llyn. Aeth hwylustod teithio â llawer o bobl tua'r mynyddoedd am eu hadloniant, a cheir llawer o ganolfannau addysg yn defnyddio'r ucheldir fel maes addysg, yn yr ystyr gorfforol a gwyddonol. Mae'r ffactorau yma i gyd yn effeithio ar boblog- aethau adar, ac mae gwyddonwyr Gwarchodaeth Natur yn gwneud ymchwiliadau i'r effeithiau hyn. Ar fynyddoedd y Rhinog, yng ngorllewin Meirion- nydd, gwneir cyfrif bob mis o'r flwyddyn o'r nifer adar sydd yn mynychu mangre dawel grug a P. HOPE JONES glaswellt y mynydd. Dengys yr astudiaeth yma fod 15-20 pâr o adar i bob 100 erw o dir (tua ugeinfed rhan y nifer a geir mewn coedwigoedd derw). Yr ehedydd a phibydd-y-waun yw'r adar amlycaf ar y tir gwelltog, gyda'r grugiâr yn y mannau grugog. Pan geir ffigurau sylfaenol am wahanol fathau o dir agored fe ellir eu cymharu â nifer adar mewn coedwigoedd coniffer a chael gwybodaeth am y cyfnewidiadau sy'n digwydd wrth i'r amgylch- edd newid. Rhoir sylw hefyd i nifer yr adar ar y llynnoedd yn yr ucheldir. Anodd barnu beth yw effaith adloniant ar boblogaethau adar-nid yw yn poeni rhyw lawer ar rai, ond dioddefodd y gigfran a'r gwalch glas yn arw wrth aflonyddu arnynt gan ddringwyr. Addysgu'r cyhoedd am werth a sylwedd adar y mynyddoedd yw'r ffordd orau i ledaenu diddordeb yn niogelwch yr adar hyn; hebddynt ni fuasai'r amgylchedd hwn mor ddeniadol, nac mor ddiddorol. Coed deri Mae llawer llai o goed heddiw nag a fu, dyn wedi eu clirio i wneud lle i adeiladu ac amaethu. Mae sychu tir wedi difa llawer o goedydd gwern ar lawr y cymoedd ac ar y llethrau. Lle gynt y tyfai coed derw, heddiw nid oes ond ffridd a phorfa, neu ddarnau helaeth unffurf o goed wedi eu plannu. Coed derw yw uchafbwynt tyfiant llawer o fannau yng Nghymru a gwneir astudiaethau ar y modd y maent yn ail genhedlu mewn llawer o'r gwarchod- leoedd. Ceir trwy'r astudiaethau a'r cyfrifon ddarganfod nifer yr adar sydd yn mynychu y coedwigoedd derw hyn yn y gwahanol agweddau yn eu datblygiad. Pan fydd y coed yn fach mae oddeutu 50 pâr o adar i bob 100 erw, ond pan fo'r coed yn eu llawn dwf, cynydda'r ffigur i 400 pâr gan gynnwys 30 gwahanol fathau o adar yn nythu efallai. Aderyn nodweddiadol o'r coedydd derw yng Nghymru yw y gwybedwr brith sydd yn ymweld â'r wlad yn yr haf, ac mae nifer o flychau nythu wedi eu gosod mewn gwahanol fannau i astudio llwyddiant magu yr aderyn yma, o Fangor yn y Gogledd, i Lanymddyfri yn y De. Astudir y barcud coch yng nghanolbarth Cymru hefyd. Aderyn prin yw hwn, ac mae natur ei fywyd a mesur ei gynnydd yn fater o ddiddordeb mawr i ecolegwyr.