Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Marwolaethau Adar y Môr Ger Arfordir Cymru 1969 Maε llawer o bobl yn ymddiddori mewn adnabod adar, a rhai â gwybodaeth helaeth iawn am y gwahanol fathau, a'u harferion. Lie da yw glannau'r môr i wylio adar a'u hadnabod, ond ychydig a wyddom am eu dull o fyw. Eu cynefin naturiol yw y môr agored ac er eu bod yn nythu a magu eu cywion ar greigiau a chlogwyni geirwon ger y môr, allan yn yr ehangder dyfrllyd y maent yn cynnal eu hunain. Amgylchedd y mae'r adar wedi cynefino ag ef yw hwn, ac wedi addasu eu dull o fyw, a ffurf eu corff ato. Yn ddiweddar bu cynnydd yn y diddordeb yn yr adar hyn gan fod yn gyntaf angen llenwi bylchau ein gwybodaeth amdanynt a hefyd am fod trychinebau wedi digwydd pan lygrwyd eu hamgylchfyd gan olew. Bu hyn yn ddinistriol i lawer o'r rhywogaethau o adar allan ar y môr. Hoffwn yn yr erthygl yma ganolbwyntio ar ddau fath o aderyn y môr, sef yr heligog a gwalch y penwaig. Mae'r ddau yn magu ar hyd glannau môr Cymru ac yn niferus iawn ym Môn, Arfon a P. HOPE JONES Phenfro. Bu 1969 yn flwyddyn drychinebus i'r adar yma oherwydd dau ddigwyddiad a achosodd lawer o farwolaethau allan ar y môr agored. Ar Ebrill 30, 1969, ar ôl anffawd yn aber yr afon Merswy, arllwysodd y tancar Hamilton Trader tua 700 tunnell o olew trwm i'r môr. Aeth y gwynt â'r slic olew heibio i arfordir siroedd Fflint a Dinbych, ac erbyn Mai 7 yr oedd tua 16 milltir i'r gogledd o Ben y Gogarth ger Llandudno. Y diwrnod canlynol aeth gwynt o'r de-orllewin ag ef i gyrrau arfordir y gogledd ac erbyn Mai 12 yr oedd yn taro ar lannau môr Cumberland. Ar Mai 2 cafwyd adar byw wedi eu gorchuddio gan olew ar y glannau, a'r mwyafrif yn cyrraedd ar Mai 3 a 4. Bu llawer o bobl yn rhoddi cymorth i'w cludo i swyddfeydd yr R.S.P.C.A. yn y Rhyl a Llandudno. Erbyn Mai 10 yr oedd 1,470 o heligogiaid a 48 o weilch y penwaig wedi eu casglu oddi ar y glannau a'r rhan fwyaf ohonynt