Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Blodau Gwyllt Eryri Rhosyn y Mynydd (Sedum rosea), un o blanhigion anghyffredin yr Arctic Alpau, sydd i'w gael ymysg creigiau Eryri WRTH astudio patrwm cynnwys llysieuol mynydd- oedd Eryri mae yn amlwg iawn fod effeithiau a dylanwad cyfnodau y rhew mawr yn dal i chwarae rhan bwysig iawn ym modolaeth planhigion arbennig a geir ar fynyddoedd uchel Cymru. Tir uchel, creigiau serth a geirwon yn amgylchynu cymoedd a nentydd culion yw y rhan helaethaf o randir Eryri. Creigiau o ansawdd igniaidd a llechfeini yw'r crystyn daearyddol a'i briddell yn gymysgfa o gerrig ac ychydig bridd bas yn cynnwys rhwbel a gariwyd ac a adawyd yn domennydd hyd lawr a llethrau y cymoedd yn ystod cyfnodau y rhew mawr. Oherwydd safle orllewinol gwlad Eryri, mae'r hinsawdd yn tueddu i fod yn dyner a llaith, a'r tir felly'n wlyb a llawer o fawndir ynddo. Tir o natur sur yw mawndir y mynydd. Nid yw'n dir cynhyrchiol nac addas fel tir âr, ond yn hytrach ei bwrpas amaethyddol yw rhoi porfa i gynnal a magu defaid. Lle gwyllt a di-drefn iawn i'r olwg gyntaf yw patrwm tir uchel Eryri, ond mae'n rhyfedd fel y daw'r blerwch a'r gwyllter o'i astudio ymhellach i ddangos rhyw drefn rhyfeddol. Ar y mynydd mae lle i bopeth, a phopeth yn ei Ie arferol. Mae hyn i'w EVAN ROBERTS weld yn amlwg iawn ym myd y llysiau. Gwelir fod rhyw drefn barhaol iddynt o'r iseldir i'r ucheldir. Yn codi o'r dolydd gwelltog mae coedwigoedd yr allt, yna newid drosodd i borfa wael o gawnen ddu troellgoryn a rhedyn, yna yn y marian a'r mawndir mae grug a llwyni llys. Clogwyni moelion yn dilyn, ac yn gopa i'r moelydd, carped fwsogl llwyd a'r helygen leiaf ynghyd ag ambell welltyn o hesgen y mynydd. O astudio'r drefn yn fanylach, sylwir bod llysiau yn cymdeithasu, ac fod cymdeithas arbennig o lysiau yn neilltuol berthyn i goedwig yr allt. Felly hefyd ceir planhigion gwahanol yn y corsdir ac ar y ddôl, ac o dan yr un drefn mae planhigion neilltuol yn cymdeithasu ar diroedd uchel Eryri na cheir mohonynt ar yr iseldir yn y rhannau yma o dir Cymru. Y llysiau mwyaf diddorol i'w hastudio ar fynyddoedd Cymru heddiw yw planhigion yr Arctic Alpau. Hynny yw, planhigion na cheir mohonynt ond mewn tiroedd rhewllyd oer twndra cylch yr Arctic, neu ar gyrion iâ Alpau uchel y gwledydd o Ewrop i Asia, a mynyddoedd gorllewin Canada a Unol Daleithiau'r America. Deil y