Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Evan Roberts BRODOR o Gapel Curig a addysgwyd yn ysgol y pentref ac a ddilynodd batrwm yr ardal gan fynd i weithio i'r chwarel yw Evan Roberts. Yno fe dreuliodd flynyddoedd wrth ei grefft o drin llechi. Fel plentyn o'r wlad a'r ardal arbennig hon, yr oedd y creigiau a'r mynyddoedd yn rhan o'i fywyd, ac yn gynnar yn ei yrfa dechreuodd grwydro a dringo o gwmpas ei gartref. Gwnaeth enw iddo'i hun yn fuan, a galwyd arno'n aml gan westiwyr yr ardal i arwain dringwyr a cherddwyr i'r mynydd- oedd. Yn ystod y.rhyfel bu'n dysgu crefft dringo craig i filwyr y lluoedd arfog a ddefnyddiai Eryri fel maes ymarfer, ac efe oedd y Cymro cyntaf i dderbyn tystysgrif arweinydd mynydd gan y Britìsh Mountaineering Council. Bu dylanwad arall ar fywyd Evan Roberts, sef diddordeb ei dad a'i daid mewn natur wyllt. Ymddiddorent mewn gwahanol fathau o redyn, ac o'r herwydd, fe ddysgodd y mab lawer gan ei dad, a naturiol oedd iddo pan welodd flodau bychain piws ar Foel Siabod ymchwilio i mewn iddynt, a darganfod mai'r Purple saxifrage oeddynt. Agorodd hyn faes eang adanbod planhigion yr Arctic Alpau iddo, a buan iawn y gwnaeth enw iddo'i hun fel un 'gwybodus' ym myd y blodau eithriadol hyn. Yn ôl y llyfrau, blodyn prin oedd Lloydia ac un anodd ei ddarganfod, ond yn fuan fe'i darganfuwyd gan Evan Roberts. Aeth â rhai llysieuwyr i'w weld, a hwythau yn eu tro yn rhoddi llyfrau ar lysieueg i'r chwarelwr a'r dringwr galluog. Trwy ddarllen a dod i adnabod llysieuwyr eraill, rhoddodd Evan Roberts sail wyddonol i'w wybodaeth. Cyfarfu â Price Evans, llysieuwr enwog, a bu'r ddau yn llysieua â'i gilydd droeon, y naill yn manteisio ar brofiad y llall. Fe gronnodd felly ei allu fel creigiwr a llysieuwr i astudiaeth fanwl o blanhigion Arctic Alpau y creigiau a'r clogwyni y gwyddai mor dda amdanynt. Bu'n darlithio i amryw o gymdeithasau, ac yn fuan ar ôl sefydlu Bwrdd Gwarchodaeth Natur gwahoddwyd ef i fod yn Warden ar Gwm Idwal. Un o orchwylion cyntaf y Warchodaeth oedd casglu manylion am fywyd gwyllt mynyddoedd Eryri, a daeth astudiaethau manwl a chynhwysfawr Evan Roberts i'r amlwg. Sylweddolodd Dr. R. Alun Roberts, cyn-Athro Llysieueg Amaethyddol Coleg y Brifysgol, Bangor, a Dr. R. E. Hughes, Cyfar- wyddwr Bwrdd Gwarchodaeth Natur Cymru, fod y gwaith hwn o safon uchel a gwerth mawr, a derbyniodd Evan Roberts radd anrhydeddus o M.Sc. gan Brifysgol Cymru. Ym 1963 derbyniodd yr M.B.E. am ei waith yn gwarchod natur ardal ei fagwraeth. Mae yn awr yn Brif Warden Gogledd Cymru, yn llysieuwr arben- nig, yn fynyddwr profiadol, athro a dehonglwr naturiol, cymeriad hoffus a charedig-un o wir gewri Eryri. WARREN MARTIN A W. JONES