Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gweiriau Viviparus y Mynydd MAE'R gweiriau viviparus ymhlith y planhigion mwyaf diddorol a geir ar ucheldiroedd Cymru. Maent yn hawdd eu gwahaniaethu oddi wrth y gweiriau eraill gan nad ydynt yn blodeuo, ond yn hytrach, gwelir tusw o blanhigion bychain ynghlwm wrth y ffiurgainc lle y disgwylid cael y blodyn. Credir eu bod ymysg y planhigion sydd wedi tyfu ar y mynydd ers diwedd Oes yr Iâ. Oherwydd gerwinder y tywydd, ychydig o blan- higion un mlwydd a geir ar yr ucheldir, gan mai byr yw'r tymor i beillio ac aeddfedu a dosbarthu had. Planhigion trosflwydd a geir yn bennaf, yn gallu byw yn hir ac atgynhyrchu yn llystyfol. Mae amryw o'r rhai hyn wedi datblygu dulliau arbennig o atgynhyrchu, er enghraifft, Lycopodium selago, y Clwbfwsogl Mawr, sydd â bylbiau bychain yn tyfu yng nghesail y dail. Yn y llysiau viviparus mae blaguryn neu fylbyn yn tyfu lle'r arferid cael blodyn. Nid mewn gweiriau yn unig y ceir hyn; mae'r Polygonum vivparum, Llys y Neidr vivipar- aidd, sy'n ffynnu ar y mynyddoedd, yn cynhyrchu bylbiau bychain piws yn lle blodau yn y rhan isaf o'r sbigyn. Yn y gweiriau cyffredin ffurfir y blodau yng ngheseiliau y bractau yn yr us, ond yn y gwair vivparus, yng nghesail y bract, tyf blaguryn a phedair neu bump o ddail gwyrdd a llafnau arnynt. Crynhoir carbohidrad, nitrogen a mineralau eraill yn y blaguryn, ac ar ôl iddo aeddfedu, teflir gwreiddyn allan o'i fôn a gall dorri i ffwrdd oddi wrth y rhiant a thyfu yn blanhigyn annibynnol. Linnaeus, yn 1737, oedd y cyntaf i ddefnyddio y term viviparus am y math yma o lysieuyn. Defnyddid y term cyn hynny am deulu'r mangrove, lle mae had yn cael ei ffurfio ac yn blaguro cyn cael ei ollwng yn rhydd oddi ar y rhiant. Dyna ystyr gwreiddiol y gair, ond erbyn heddiw ehangwyd ef i gynnwys y planhigion nad ydynt yn ffurfio had. Ar fynyddoedd Cymru ceir tri genus o weiriau viviparus: (I ) Festuca v/v//wa.Peisgwellt viviparus. Dyma'r un mwyaf cyffredin o'r tri ond gwelir yn ôl y map fod hyd yn oed hwn wedi ei gyfyngu i ardaloedd y gogledd-orllewin, hynny yw, yr ardaloedd llaith sydd â thros 100 cm. 0 law y VERNA JONES Festuca vivipara (L)Sm, Peisgwellt viviparus (x1)