Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

datblygu yn gyntaf, yna ni fuasai newid rhif y cromosomau yn ddiweddarach yn rhoddi'r rhywog- aeth o dan unrhyw anfantais. Ni allwn ond dyfalu am hyn. Mae'r cymeriad viviparus yn gyson yn y plan- higyn tra byddo'n aros yn yr un amgylchfyd. Ond dan amgylchiadau gwahanol gall y planhigyn flodeuo fel bod y gallu cynhenid i flodeuo yn dal yn y gweiryn. Mae amryw o arbrofion diddorol wedi eu gwneud ar duedd y gweiriau i fod yn viviparus. Y casgliad cyffredinol yw fod y vivipari yn dod i'r amlwg fel mae'r dydd yn byrhau a'r tymheredd yn oeri. Dangosodd Nygren (1962) fel yr oedd Poa alpina oedd yn viviparus mewn golau ddydd dan 12 awr a thymheredd lled oer yn troi i flodeuo mewn golau ddydd o 16 awr a thymheredd o 21°-27°C. Ceir felly y gallu cynhenid i atgynhyrchu yn viviparus yn dod i'r amlwg mewn amryw o wahanol weiriau dan amgylchiadau arbennig fel dyddiau byr a thywydd lled oer. Lle mae'r amgylchiadau hyn COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S. Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth, a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Seicoleg, Peirianneg Electronig, Technoleg Defnyddiau, Bioleg y Môr, Cefnforeg, Coedwigaeth, ac Amaethyddiaeth. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn mewn canlyniad i arholiadau a gynhelir yn yr ysgolion ym mis Mawrth. Y mae gan y Coleg bump Neuadd Breswyl â lle i fìl o fyfyrwyr. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd. yn cael eu cysylltu â chynefin cyfaddas fel lleithder, cymuned agored ac amddiffyn rhag pori trwm, sydd yn angenrheidiol i'r epil ymsefydlu yn llwyddiannus, gwelir y gweiriau viviparus yn cymryd eu lle fel rhan o fflora'r mynydd. CYFEIRIADAU Clapham, A. R., Tutin, T. G., a Warburg, E. F. (1962), Flora of the British Isles. Davis, P. H., a Heywood, V. H. (1963), Principles of Angiosperm Taxonomy, tud. 363, 383. Hawkes, J. G. (1965), Reproductire Biology and Taxonomy of Vascuiar Plants. Cyh. Botanical Society of the British Isles, tud. 131. Lawrence, W. E. (1945), Some ecotypic relations of Deschampsia caespitosa, Amer. J. Bot., 32, tud. 298. Nygren, A., a Almgård, G. (1962), On the experìmental controi of vivipary in Poa. K. Lantbr. Hogsk. Ann. 28, tud. 27. Raven, J., a Walters, M. (1956), Mountain Fìowers. The New Naturalist Series, rhif 23, tud. 53, 83. Wycherley, P. R. (1953a), The Distribution of the Viriparous Grasses in Britain. J. Ecol., 41, tud. 275. Wycherley, P. R. (1953b), Proliferation of Spikelets in British Grasses. Watsonia, 3, tud. 41.