Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffyngau Ym myd llysieuaeth gosodir y ffyngau ymysg y planhigion symlaf ynghyd â'r algae a'r thallophyta. Nid ydynt fel rheol yn ymrannu'n wreiddiau, coes a dail, yn hytrach maent yn un darn syml. Yr enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw y madarch a'r caws llyffant, a thyfiant llwydni caws a bara, ac mae'n amlwg oddi wrth yr enghreifftiau hyn eu bod yn amrywiol iawn eu ffurf a'u hamgylchfyd. O ran maint, amrywiant eto o ychydig ficronau o hyd i eraill fel y belen lwch wen (Lycoperdon gìganticum) sydd gymaint â 60 mm. ar ei thraws. Nodwedd arbennig y ffyngau yw absenoldeb clorophyll o'u cyfansoddiad, ac o'r herwydd maent yn dra arbennig fel dosbarth o blanhigion. Mae gan rai liw gwyrdd arnynt, ond nid clorophyll mohono. Ni all y ffyngau felly gyfosod materion organig drwy photosynthesis ac maent yn ddibynnol ar blanhigion neu anifeiliaid eraill i wneud hyn drostynt-felly maent yn ddibynnol ar ffurf arall o fywyd am eu cynhaliaeth. Rhoir lle amlwg i ffyngau yn astudiaethau'r ecolegwr am eu bod yn rhan angenrheidiol o fywyd y pridd ac yn chwarae rhan bwysig iawn yn y broses o ddadansoddi mater organig i lawr i ffurf anorganig. Yn ôl Tischler (1955) gellir rhannu yr organebau byw a geir ym mhridd y ddôl fel a ganlyn Bacteria 40 Ffyngau 40 Pryfaid 12 Anifeiliaid mawr eraill 5 Anifeiliaid bychain 3 Gwelir felly fod gan y ffyngau ran flaenllaw iawn ym mioleg y pridd. Mae olyniaeth o wahanol fathau o ffyngau yn gweithio yn y pridd a'r enghraifft glasurol yn egluro hyn yw'r gwahanol ffyngau a geir ar dail anifeiliaid pori. Yn gyntaf tyf y Mucorale fel y 'Taflwr Cap' (Pihbolus Kleinii) sydd yn lledaenu eu sporau drwy ddull mecanyddol o'u taflu ar blanhigion eraill. Erys y sporau ar y tyfiant nes eu bwyta gan anifeiliaid, yna maent yn bywhau yn amgylchedd perfedd yr anifail a phan eu hysgarthir allan gyda'r tail maent yn barod i ail dyfu a chenhedlu. Maent R. O. MILLAR felly yn cael eu cynhaliaeth oddi wrth y tail ac yn dechrau y broses o fraenu y tail a'i droi yn ffurf haws i'w ddefnyddio gan dyfiant glas y tir. Y cam nesaf yw tyfiant y ffyngau a elwir yr Ascomycetes sydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o fadru selulôs, ac ar eu hôl hwythau daw y Basidiomycetes sydd yn madru'r lignin. Mae y prosesau madru a wneir gan y ffyngau yn gymhleth iawn. Mae'n sicr mai gweithgareddau ensymau o wahanol fathau sy'n gyfrifol amdano. Cymer y ffyngau yn y pridd ran bwysig yn y prosesau o ffurfio hiwmws, ond maent hefyd yn cyfrannu'n anuniongyrchol at fwydo planhigion. Er eu bod yn cystadlu â phlanhigion am fwyd parod yn y pridd, maent yn storio maeth yn y mycilium, a phan mae'r ffwng yn marw mae'r maeth yma, ar ffurf Nitrates y rhan fwyaf, yn cael ei ryddhau i'r pridd yn barod i'r planhigion. Gwelir hyn yn y glesni a welir mewn `cylch y tylwyth teg' sydd yn cael ei achosi gan ffwng sy'n lledu allan yn gylchol. Cysylltir y ffyngau yn ami ag afiechydon, ac y maent yn achosi llawer math o glefyd planhigion, yn enwedig ar gnydau amaethyddol. Mae trefn amaeth yn aml yn hwyluso ffyniant y ffyngau (gweler erthygl A. Buse) drwy dueddiadau unffurf y tyfiant. Ond mae llawer o ddaioni ynddynt hefyd fel braenwyr y mater deiliog marw a fuasai'n orchudd tew ar y ddaear onibai am y ffyngau yn y pridd. Credir fod mwy o ffyngau mewn pridd sur nag mewn pridd calchog. Os felly, maent yn dra phwysig i ecoleg mynydd-dir Cymru. Mae lleithder y tywydd yn addas i dyfiant y ffyngau ac mae adran llysieuaeth y Coleg ym Mangor yn manteisio ar hyn i fynd allan i chwilio am y gwahanol fathau (dan arweiniad Dr. C. G. Dobbs). Maes eang i'w astudio gyda llawer o ddirgelion yw byd y ffyngau. Yn ddiweddar cafwyd hyd i rai ffyngau prin yng Nghymru a haeddant grybwylliad arbennig. Mae'r ffwng brown, 'Clust yr Iddew' (Auricularia auricuìa) (Hook) Under., i'w gael yn gyffredin yn tyfu ar fonion hen goed ysgaw.