Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gafr wyllt Eryri ger Llanberis, 1967. Sylwer ar y cyrn bwaog; mae cyrn geifr benyw yn llawer llai Geifr Gwyllt Eryri MAE geifr yn rhan draddodiadol o ucheldir Cymru ac mae gweld geifr gwylltion, disgynyddion o'r hen ddiadelloedd a fu, yn gyffredin iawn i fugeiliaid ardaloedd Eryri. Nid oes llawer o bobl yn gyfar- wydd â'r cysylltiad byw yma â hen hanes y wlad. I'r mwyafrif anifeiliaid y fferm wedi troi'n wyllt ydynt ac ni roddant bwys mawr arnynt mewn cysylltiad â materion gwarchod anifeiliaid. I. G. CROOK Mae gwyddonwyr y Bwrdd Gwarchodaeth Natur wedi bod yn astudio y geifr hyn ar Eryri i gael amcangyfrif ohonynt, a gwybodaeth am eu dull o fyw a'r modd y maent yn dosbarthu eu hunain o fewn eu hamgylchfyd. Dechreuwyd gyda'r cyfrifon yn 1964, ac fel cam ymhellach, yn 1967 bûm yn cynnal astudiaethau ar ecoleg y geifr gan geisio lleoli eu pwysigrwydd fel ffactor ynglyn â