Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Malwod Agriolimax reticulatus: malwen fechan sydd yn niferus mewn tir amaethyddol. Sylwer ar y niwed i'r gronynnau gwenith MAE 23 o wahanol fathau o falwod i'w cael ym Mhrydain, a'r cyfan ond pump i'w cael yng Nghymru. Maent yn greaduriaid swil, yn mynychu lleoedd llaith, ac yn fwy amlwg yn y nos. Er eu bod yn anifeiliaid adnabyddus, dim ond yn ddiweddar y rhoddodd gwyddonwyr sylw manwl iddynt. Cynrychiola'r falwen ran o'r anifail a elwir yn mollusca, ac mae'n wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu yma am ei bod yn byw ar y tir. Mae'r gweddill yn trigo yn nirgelion y môr gan gynnwys cocos, creaduriaid cregynog, yr octopus, ac eraill. Mae ffurf daearol y falwen yn galw am ddatblygiadau gwahanol yn ei chorff a'i hanianyddiaeth fel y rheidrwydd i gael ysgyfaint i anadlu a dulliau arbennig o arbed rhag anweddiad dwr o'r corff. JANE HATTO Cragen y falwen yw ei chysgod rhag sychder a'i lloches rhag gelynion, ond nid oes ganddynt oll gragen gyflawn. Yn y Tesiacellidae, cragen fechan hirgron ar y gynffon sydd, ac yn y lleili mae'r gragen o fewn y corff. Croen llaith wedi ei orchuddio â llysnafedd sydd ganddynt, yn caniatáu anadlu aer drwyddo i beth graddau, ond sydd hefyd yn colli gwlybaniaeth o'r corff. Gyda'i throed gref o dan yr holl gorff, mae'r falwen yn symud yn ddyfal iawn, er yn araf, a gellir gweld olion disglair y llysnafedd o'i hôl. Mae lleithder yn angenrheidiol i'r falwen, ac o'r herwydd triga mewn mannau gwlyb, ac mae'n fwy bywiog yn ystod y nos pan fo'r lleithder ar ei ddwysaf. Mae mesur isel 0 leithder yn cwtogi ar 'ei symudiadau,