Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

boblogaeth a cheisio cael mesurau i'w cadw mewn trefn. Y ffurf safonol o wneud hyn yw trwy dynnu'r malwod allan o briddell sgwâr-mae dau fesur poblogaeth fel enghreifftiau i'w cymharu yn ddigon yma, sef oddeutu 600,000 Agrioìimax reticulatus mewn cae gwenith (Thomas, 1944) a 5,600 Arion subfuscus mewn tir coediog (Drift, 1951). Gesyd y falwen ei hwyau mewn tir llaith neu mewn tyfiant pydredig. Maent yn anifeiliaid deuryw, a rhai mathau â'r gallu i luosi yn fuan iawn. Mae rhai fel Agrioìimax reticuìatus yn dodwy tua 250 o wyau ddwywaith y flwyddyn; eraill, Arion hortensis, cyfartaledd o 51 o wyau unwaith y flwyddyn, ac eraill yn dodwy 31 o wyau bob yn ail flwyddyn fel Milax budapestensis (Hunter, 1966). Mae llawer o'r wyau a'r malwod ieuanc yn marw, y rhan amlaf oherwydd colled dwr, ond pan fo cysgod ac amgylchedd llaith ffafriol, gall y boblog- aeth gynyddu mewn byr amser. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: F. LLEWELLYN-JONES, C.B.E., M.A.. D.PHIL., D.SC., F.INST.P. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg ac Eigioneg. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol; Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Diddorol yw sylwi fod dulliau amaethyddol diweddar o drin tir, sef peidio troi tir, yn ffafrio'r falwen. Nid yw yn cael ei thaflu ar y wyneb i gael ei lladd gan sychder ac anifeiliaid eraill (Hunter, 1967). Mae defnyddio cyffuriau lladd planhigion sydd yn gadael haen o wellt marw ar y ddaear yn rhoi bwyd a chysgod i'r falwen a gall y nifer gynyddu i lefel niweidiol. Mae'r falwen yn rhan o gylchrediad ffactorau biolegol yn y tir, ac fe all astudiaethau manwl o'i dylanwad ar y pridd fod o bwys mewn rhai meysydd i ddeall ei gymhlethdod ecolegol. CYFEIRIADAU Dainton, B. H. (1954), J. Exp. Biol., 31, 165-87. Drift, J. van der (1951), Tijdchr. Ent., 94, 1-168. Howitt, A. J. (1961), J. Econ. Ent., 54, 778-81. Hunter, P. J. (1966), J. Anim. Ecol., 35, 543-57. Hunter, P. J. (1967), Pl. Path., 16 (4), 153-58. Quick, H. E. (1960), Bull. Br. Mus. Nat. Hist., D, 6 (3). Thomas, D. C. (1944), Ann. Appl. BioL, 31, 163-64.