Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ddafad a'i Chynefin Dywedir yn aml mai creadur gwirion yw dafad. Seilir y dywediad hwn ar yr arfer gan ddefaid i ddilyn ei gilydd yn ddifwlch wrth groesi'r ffordd fawr heb gymryd unrhyw sylw o'r drafnidiaeth, a phob dafad yn rhoi sbonc dros yr union fan heb fod unrhyw achos gweladwy am hyn. Er fod hyn yn ymddangos yn wiriondeb ar lawr gwlad, mae'n reddf amhrisiadwy er diogelwch y praidd ar diroedd garw neu fynydd-dir helaeth. Er enghraifft, pan fo'r praidd mewn cyfyngder megis ar dywydd garw a lluwchfeydd eira, y defaid cryf, cyfrwys sy'n darganfod llwybr ymwared o'r helbul a'r lleill yn eu dilyn yn un rhes ddifwlch. Mae'r arweinwyr yn gweld y rhwystrau ac yn eu hosgoi drwy roi sbonc sydyn, neu drwy gilio i'r ochr, a'r gweddill yn eu hosgoi drwy efelychiad. Pery'r reddf hon yn gryf yng nghyfansoddiad defaid er iddynt fyw am genedlaethau ar dir isel ac o dan ofal cyson. Gwelwyd enghraifft dda o hyn pan amgaewyd cae oddi mewn i gae arall gan adael cylch o dalar rhwng y ddau derfyn. Ar ôl rhoi rhyw gant o ddefaid ar y dalar aethant ar wasgar i bori, ond ar ôl ychydig oriau dechreuodd rhai symud i un cyfeiriad, ac ymhen ychydig funudau roedd y praidd i gyd yn rhedeg i'r union gyfeiriad, gan ffurfio llinell ddi-dor a phob un yn rhedeg ar ôl y ddafad o'i blaen ac yn neidio i'r awyr yn yr un man dros hen rwystrau dychmygol. Parhaodd hyn am oriau nes iddi nosi. Trannoeth dechreuwyd y dydd drwy bori'r ychydig fannau â phorfa las arnynt, ond yn ddiweddarach dechreuodd yr ymgyrch unwaith eto, gan ddal ati nes rhoddwyd clwyd ar draws y dalar i dorri'r cylch. Roedd y dalar a'r defaid yn llaid drostynt. Ar fynyddoedd agored mae ymarweddiad y ddafad yn dra gwahanol i'r hyn ydyw ar ffermydd llawr gwlad lle mae'r tir wedi'i rannu'n unedau cymharol fychan ac arwynebedd y tir ac ansawdd y borfa oddi mewn i bob cae yn weddol unffurf. Gofala'r ffermwr am anghenion y praidd ar hyd y flwyddyn, a chan nad oes raid i'r ddafad chwilio am fwyd mae'r arwyddion o'i hymarweddiad cynhenid bron â diflannu. Er hyn mae'r praidd yn dal i noswylio ar y tir uchaf, hyd yn oed o fewn y llain lleiaf, ac eithrio ar noson ystormus. IORWERTH JONES Ar fynydd agored nad yw wedi'i ffensio'n is- raniadau a lle mae'r bugeilio yn achlysurol, y tywydd yn eithafol a'r borfa las yn brin neu'n isel ei gwerth fel porthiant, mae ymarweddiad y ddafad yn holl-bwysig mewn perthynas â'i ffyniant, ac i raddau helaeth mae symudiadau'r praidd a dwyster y pori yn dylanwadu ar gyfansoddiad llysieuol y borfa. Rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ôl gwnaed arolwg ecolegol arbennig o'r problemau hyn ar dair lluest uwchlaw Pontarfynach yng ngogledd Ceredig- ion, a chrynodeb o ganlyniadau'r gwaith hwnnw, ynghyd â rhai sylwadau eraill, yw cynnwys yr ysgrif hon. Ymlyniad y ddafad wrth adran arbennig o'r mynydd Er fod llawer yn credu mai dim ond clawdd da a all gadw dafad rhag crwydro, mae llawer iawn o dir mynydd heb glawdd na ffens ar y terfyn. Creaduriaid anghymdogol yw defaid ac anfynych y bydd defaid dwy ddiadell yn cymysgu â'i gilydd. Pan ddigwydd hyn drwy ddamwain, buan yr ymwahana'r ddau braidd pan gânt ysbaid o lonyddwch. Felly, anaml y crwydra defaid mynydd i luest arall os oes praidd sefydlog yno, er y gall y praidd niferus a chefnog dresmasu'n ara bach yng nghwrs amser a gwasgu'r cymdogion yn ôl o'u terfyn cyfreithlon. Hefyd, mae y rhan fwyaf o ddefaid mynydd yn ymlynu'n agos nid yn unig wrth y lluest y magwyd hwynt arni, ond hyd yn oed wrth ddarn arbennig o'r cyfryw luest. Os digwyddant symud oddi yno oherwydd storm neu helfa, buan yr ymlwybrant yn ôl, a byddai ambell hen fugail yn cyfeirio at rai o'r mamogiaid oddi mewn i ardal nid yn unig yn ôl enw'r lluest arbennig ond hefyd fel defaid a fyddai'n pori ar adran arbennig o'r lluest honno. Cynhwysai lluest Nantrhys dros ddwy fi1 o erwau ac roedd iddi bum adran rhwng tri chan a chwe chan erw yr un. Er nad oedd clawdd rhwng yr adrannau roedd pob adran yn uned annibynnol ac anfynych y crwydrai dafad o'r naill adran i'r llall. Tynnid yr wyn benyw o bob adran o'r mynydd tua diwedd Awst a dychwelent i'w cynefin tua chanol mis Ebrill canlynol ar ôl gaeafu ar diroedd isel glan y môr. Cyn gynted ag y byddent y tu hwnt i