Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Effeithiau Ecolegol ar Berthynas y Ddafad a'r Ucheldir J. DALE, D. I. REES A I. ELLIS-WILLIAMS UN o hanfodion amgylchedd yr ucheldir yng Nghymru heddiw yw y gyrroedd defaid-eu brefu a rhamant yr hwsmonaeth bugeiliol sydd wedi bod yn destun i feirdd, llenorion a darlunwyr ers llawer amser. Nid yw y ddafad, beth bynnag, ond yr olaf o lawer o anifeiliaid sydd wedi byw ar y mynydd- oedd. Mewn oes gyntefig mae'n debyg mai'r ceirw, yr arth a'r blaidd oedd yn ffynnu a dim ond ar ôl ymyrraeth dyn â'r amgylchfyd yma y daeth yr anifeiliaid eraill. Bu llawer o'r Celtiaid cynnar yn cadw geifr a gwartheg ar rai o lecynnau yr ucheldir ac o dro i dro fe gliriwyd llawer o'r coedydd a oedd yn lloches i anifeiliaid gwyllt a math o amaeth borfaol yn cael ei chynnal yma. Gellir synio felly mai amgylchfyd wedi ei newid yn arw o'r naturiol yw'r ucheldir. Heddiw, y ffactor pwysicaf sy'n gweithredu yw y ddafad fynydd, ac mae ecolegwyr tir uchel yn gorfod astudio y cyswllt sydd rhwng y ddafad a'i chynefin er mwyn deall cymhlethdod problemau biolegol y mynyddoedd a cheisio rhagweld effeithiau a all ddod o achos newidiadau defnydd tir neu drefn o hwsmonaeth. Mae erthygl Iorwerth Jones yn egluro rhai o nodweddion ymddygiad ac effeithiau y ddafad, ac fe edrychwn ninnau'n fwy manwl ar y nodweddion ecolegol sydd yn cydgysylltu y ddafad â'r tir uchel, ac effeithiau y naill ar y llall. I'r ecolegwr mae'r ddafad yn cael ei chyfrif fel ffactor biotig, ac mae gwaith y llu llysyswyr biotig hyn yn cael effaith fawr ar ansawdd a natur y mynyddoedd. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae'r Warchodaeth Natur wedi bod yn astudio'r gwahanol agweddau. Ymestyniad yw hyn o waith a wnaed eisoes gan Boulet (1939), Hughes (1955), Hunter (1962) a Jewell (1965), a chysylltiadau â gwaith y Fridfa, Aberystwyth. Rhaniadau o'r amgylchfyd Amgylchfyd sydd yn gymhleth a diddorol yw ucheldir Cymru. Mae nodweddion daeareg, pridd a thyfiant yn cydeffeithio gyda'r uchder a'r tywydd i roddi llawer o wahanol fathau o amgylchedd. Mae mesur y glaw yn ymestyn o tua 40 modfedd y flwyddyn tua'r uchder o 500 troedfedd i dros 150 modfedd mewn uchder o 1,500 troedfedd ac uwch, gyda mwy o law yn yr ochr orllewinol o'r wlad. Mae'r priddoedd hefyd yn gwahaniaethu yn arw (gweler erthyglau Astudiaethau Pridd). Deilliodd rhai o graig igniaidd asid a chaled, gan roddi priddoedd sur di-faeth, deilliodd eraill o graig galchog, sy'n hindreulio'n rhwydd ac yn rhoddi priddoedd cymharol faethlon, ac eraill yn gymhlethdod o wahanol briddoedd wedi eu creu gan effeithiau symudiadau Oes y Rhew ac effeithiau glaw a daeareg. Ceir yma gymhlethdod o dyfiant llysieuol; ceir cyswllt agos rhwngllysieuaeth yr ucheldir a'r holl ffactorau eraill, yn enwedig ansawdd y pridd. Ceir rhai mannau cymharol doreithiog, yn enwedig lle bo effeithiau y garreg galch i'w gweld yn y pridd­ ceir tir glas, meillion gwyn, a llawer o lysiau maethlon eraill yno. Mewn mannau sych ar briddoedd sur ceir crawcwellt a grug, gyda brwyn a gwair rhos a phlu'r gweunydd yn y mannau gwlyb a mawnog. Trwy astudio yr holl nodweddion hyn gellir rhannu yr amgylchfyd yma i wyth rhaniad ecolegol, ac mae astudiaethau o gyfrifon defaid o fewn y rhaniadau hyn yn rhoddi darlun o'r cysylltiad sydd cydrhwng y ddafad a'r amgylchfyd. TABL 1 Cyfartaledd Grŵp Mesur Ansawdd Asidl defaid ί'г erw ecolegol glaw Uchder draenio basig (Ebrill-Medi) (modfeddi) (troedfeddi) 1 120-200 1400 Rhydd A 0-30 2 120-200 1400 Rhydd B 091 3 120-200 < 1400 Rhydd A 0-81 4 120-200 <1400 Rhydd B 1-95 5 120-200 <1400 Caeth A 1-26 6 <80 < 1400 Rhydd A 115 7 <80 < 1400 Rhydd B 3-64 8 <80 < 1400 Caeth A 192 Cyfartaledd o ffigurau a gofnodwyd dros ddeng mlynedd o amser yw'r mesuriadau uchod, ac mae llawer o anghysondebau amlwg i'w cael wrth