Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anifeiliaid Ysglyfaethus Ystyrir unrhyw anifail atgas fel un ysglyfaethus, ond fel rheol cyfyngir y term i'r anifeiliaid hynny sydd yn bwyta anifeiliaid helwriaeth, a hoffwn yn yr erthygl yma gyfyngu fy ystyriaethau i'r mathau yma o anifeiliaid. Ym Mhrydain, y troseddwyr amlycaf yw'r llwynog, ac aelodau o dylwyth y frân. Y mae eraill, sydd yn llai rheibus, ond yn fwy niferus, yn cynnwys llygod mawr, y carlwm, y draenog, a'r wiwer lwyd. Ers pan ddechreuodd dyn fagu anifeiliaid i'w hela, mae bron unrhyw greadur sydd yn bwyta anifeiliaid eraill yn cael ei gyfrif yn droseddwr, ac ymysg yr adar rheibus, mae'r tylluanod a'r hebogiaid. Mae amaethwyr a chiperiaid, gyda diddordeb arbennig mewn magu anifeiliaid, yn nodi'r mathau o anifeiliaid a enwir yn y diffiniad cul uchod gan gynnwys brain, sguthanod, a hyd yn oed adar y tô, am eu bod ôll yn peri niwed i'w diddordebau. Mae'r ddadl fod llai o anifeiliaid rheibus yn golygu mwy o anifeiliaid hela a llai o golledion wyn a ieir, yn un syml a'r ateb tu allan i derfynau'r erthygl yma. Pwrpas y sylwadau yw ceisio dangos fod unrhyw anifail, rheibus neu beidio, yn rhan bwysig o gyfundrefn gymhleth. Nid yw anifeiliaid yn byw ar ben eu hunain, maent yn trigo yn y wlad mewn caeau, coedwig- oedd, afonydd a llynnoedd-hyd yn oed ar y môr. Gyda'i gilydd mae'r rhannau hyn yn gwneud i fyny'r biosphér, ac mae pob uned yn cael ei nodi fel cyfundrefn ecolegol (ecosystem). Mewn geiriau eraill, y gyfundrefn ecolegol yw yr uned o drefniant sydd yn cynnwys cymdeithas o organebau byw (anifeiliaid a phlanhigion) sydd ynghyd â'r am- gylchfyd di-fyw (y pridd a'r dwr). Y nodwedd bwysicaf o'r gyfundrefn ecolegol yma yw ei bod yn uned weithredol, mae ynddi beirianwaith cymhleth sydd a'i wahanol ddarnau yn symud mor gywrain ag unrhyw offeryn celf. Perthyn y gwahanol ddarnau i'w gilydd fel bod symudiad un rhan yn effeithio ar symudiadau rhan arall. Hefyd mae rhannau yn medru gwneud i fyny am ffaeleddau rhan arall, fel bod yr oll yn cydweithio i gadw cydbwysedd o fewn y system. Beth yw'r berthynas rhwng y gyfundrefn ecolegol a'r anifeiliaid rheibus? D. C. SEEL Cadwyn bwyd Gall pawb resymu pan fo rhai anifeiliaid yn by\\ ar blanhigion ac anifeiliaid rheibus eraill yn eu bwyta hwythau yn eu tro, fod cylch neu gadwyn bwyd yn gweithredu. Enghraifft gyffredin o hyn yw amaethwyr yn bwydo eu hanifeiliaid â glaswellt a grawn y tir, a ninnau yn ein tro yn ymborthi ar gig yr anifeiliaid hyn. Felly hefyd y lindys, wedi cynnal eu hunain ar ddail coed a llysiau, yn fwyd yn eu tro i'r adar: Cynnwys y drefn yma dair rhan, y planhigyn, yr anifeiliaid llysysol, a'r anifail cigysol. Gall plan- higion drawsnewid egni'r haul a maeth y pridd i ffurf y gall anifeiliaid ei fwyta. Mae'r anifeiliaid llysysol yn trosi'r maeth yma i gynnal eu hunain, ac yn eu tro daw'r cigyswyr i drosi ymhellach gnawd y llysyswyr i ffurf arall ar gnawd. Nid yw y cadwyni bwyd yma yn unedau annibyn- nol, ond yn cydweithredu â chadwyni bwyd eraill o fewn y pridd sydd yn cynnwys anifeiliaid eraill, ffyngau a bacteria. Rhennir y maeth i wahanol adrannau o'r cyfundrefn. Mae'r patrwm megis gwe, a gelwi'r hyn yn 'we fwyd'. 0 fewn y 'we fwyd' yma mae planhigion ac anifeiliaid yn perthyn i lefel arbennig yn ôl yr hyn y maent yn ei fwyta. Adnabyddir y lefelau bwydo hyn fel 'lefelau trophic', ac mae organebau sydd yn cael eu bwyd drwy fwyta planhigion trwy'r un nifer o raddau yn cael eu cyfrif i fod ar yr un lefel trophic. Gall nifer y lefelau trophic mewn unrhyw gadwyn fwyd fod yn fwy na'r tair a nodwyd eisoes. ond anaml iawn y mae'n mwy na phump. FFIGUR YN Dehongli 'Lefelau Trophic' Lefel trophic Gwaith Enghraifft 1 Cynhyrchwyr Planhigion. 2 Bwytawyr Anifeiliaidllysysol,truthwyrplan- Cyntaf higion, bacteria a ffyngau yn dadansoddi mater llysieuol a bwyd mewn stôr. 3 Ail Fwytawyr Cigyswyr yn bwyta llysyswyr ac organebau micro yn dadelfenn gweddillion. 4 Trydydd Ail gigyswyr yn bwyta y cigyswyr Fwytawyr cyntaf-ac organebau micro yn dadelfennu'r gweddillion.