Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhestr o'r Cyfrannwyr BALL, D. F. Pennaeth Adran Pedoleg y Warchodaeth. Daearegwr a astudiodd fwynyddiaeth yng Nghaergrawnt a chafodd ei ddoethuriaeth yno mewn Daearyddiaeth a Daeareg. Bu'n gweithio ar Archwiliad Priddoedd Cymru a Lloegr. Buse, A. Astudiodd Zooleg ym Mangor, a chafodd ei ddoethuriaeth am ymchwil ar fioleg nentydd ac afonydd. Yn awr yn archwilio defnydd tir yng Nghymru. Crook, I. Milfeddyg o Awstralia a ddaeth i wneud astudiaethau ecolegol gyda'r Warchodaeth yng Nghymru. Cafodd radd o M.Sc. (Cymru) am ei waith ar eifr gwyllt Eryri. Yn awr yn gweithio gyda'r New Zealand Wild Life Senice. DALE, J. Astudiodd Lysieuaeth gyda Llysieuaeth Amaeth- yddol ym Mangor. Yn ymddiddori mewn mapio tyfiant a gwaith ymchwil ar taxonomy tir glas yr ucheldir. Ducker, B. F. T. Swyddog Gwarchod Adran y Gogledd. Astudiodd Lysieuaeth ym Mhrifysgol Durham a bu'n gweithio am beth amser ar arbrofion cropiau i'r Sefydliad Cenedlaethol Llysieuaeth Amaethyddol. Wedi cyfnod gyda'r Warchodaeth yn y gogledd-ddwyrain o Loegr, daeth i Gymru yn 1969. HATTO, J. Astudiodd Swoleg ym Mhrifysgol Llundain a gwnaeth gwrs M.Sc. ym Mangor. Yn awr yn gwneud gwaith ymchwil ar falwod ac anifeiliaid tebyg yn yr ucheldir. Hornung, M. Astudiodd Ddaearyddiaeth a Daeareg yn Durham a gwnaeth ei ddoethuriaeth ar astudiaethau pedolegol yno. Ymddiddorodd mewn datblygiad ac esblygiad pridd. Howells, G. Dirprwy Swyddog Gwarchod y Gogledd a astudiodd Goedwigaeth ym Mangor. Gwnaeth ei ddoethur- iaeth ar y pwnc yma a bu'n gwneud ymchwil ar faterion ynglyn ag adar helwriaeth. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hwyaid gwylltion a choedydd. Hughes, R. ELFYN. Cyfarwyddwr Cymru. (Gweler y bywgraffìad.) JONES, Iorwerth. Ganwyd yn Ruel Isaf gerllaw Bow Street, ac ar ôl graddio yng Ngholeg y Brifysgol, Aber- ystwyth, daeth yn aelod o staff Bridfa Blanhigion Cymru ym 1928. Bu'n arbenigo gyda phroblemau tir glas, ar lawr gwlad ac ar dir uchel, a chanolbwyntio ar gynnyrch yr anifeiliaid. Ar ddechrau'i yrfa bu'n helpu'i frawd Martin (yr Athro Martin Jones o Brifysgol Newcastle-upon-Tyne yn ddiweddarach) pan oedd yr Athro Stapleton ac yntau yn cynnal rhai o'r arbrofion cyntaf yn y byd ynglyn ag ymarweddiad yr anifail mewn perthynas â thir pori. Cyhoeddwyd llawer o ffrwyth ymchwil Iorwerth Jones ar dir uchel ym mwletin technegol y Fridfa-Studies on Hill Land in Wales-ym 1967. JoNEs, P. Hope. Coedwigwr arall a drodd i waith gwarchodaeth. Arbenigwr ar adar a bu ar un adeg yn gweithio yn y Camargue yn Ffrainc. Yn awr yn Is-Swyddog Gwarchod ym Meirion. (yn nhrefn y wyddor JONES, V. Astudiodd Lysieuaeth ym Mangor a gwnaeth ei M.Sc. dan yr Athro P. W. Richards a chyd-weithiodd gydag ef ar astudiaethau planhigion yr Arctic Alpau. Yn awr yn gweithio ar gynnyrch cyntaf tir uchel gyda'r Tîm Astudiaethau'r Ucheldir. Jones, W. I. Athro wedi troi i faes gwarchodaeth natur ac yn awr yn Warden ar Warchodle Natur Maentwrog. Dyn adar yn arbennig ac yn darlithio'n lleol ar waith y Warchodaeth. MARTIN, W. Uwch-Warden y Gwarchodleoedd yn Nyffryn Conwy. Ymddiddori mewn anifeiliaid gwylltion a rheolaeth gwarchodleoedd ac yn darlithio'n lleol ar faterion natur. MILLAR, R. O. Ar ôl profiad helaeth o amaeth yn Nwyrain Affrica astudiodd Lysieuaeth ym Mangor. Mae ganddo ddiddordeb mewn astudiaethau ar y ffyngau. Yn gweithio'n awr ar gynnyrch cyntaf tir uchel. Perkins, D. F. Pennaeth Tîm Amgylchedd yr Ucheldir. Llysieuwr a wnaeth ei radd a'i ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Arbenigwr mewn astudiaethau cynnyrch a chylch- rediad maeth ar blanhigion yr ucheldir. PRITCHARD, Tom. Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru. Gradd- iodd mewn Llysieuaeth a Llysieuaeth Amaethyddol ym Mangor. Gwnaeth ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Leeds ar Etifeddeg Poblogaethau. Ysgrifennydd Pwyllgor Cefn Gwlad 1970. REEs, D. I. Astudiodd Lysieuaeth Amaethyddol yn Aberystwyth ac yn gwneud gwaith ymchwil ar gynnyrch byw defaid yr ucheldir. ROBERTS, EvAN. Prif Warden Eryri. (Gweler y bywgraffìad.) SEEL, D. C. Arbenigwr mewn astudiaethau anifeiliaid a astudiodd ym Mhrifysgol Llundain ac a wnaeth ei ddoethur- iaeth yn Rhydychen. Yn gwneud gwaith ymchwil ar adar ac anifeiliaid yr amgylchedd mynyddig. WILLIAMS, I. ELLIS. Astudiodd amaeth yn Aberystwyth ac wedi cyfnod fel rheolwr ac amaethwr defaid daeth i'r Warchodfa i wneud gwaith ymchwil ar ecoleg defaid yr ucheldir. CYDNABYDDIAETH Rhaid cydnabod cymorth holl aelodau staff y Warchodaeth yng Nghymru, yn enwedig T. Ll. Williams, Ysgrifennydd y Ganolfan, Bangor, am ei gyngor; M. Gash am ei help gyda'r lluniau; Mrs. P. Neep, am ei gwaith arlunio; P. Walters Davies, Swyddog Gwarchod y De, D. White, Caerdydd, a P. Schofield am eu cyngor.