Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Welsh Contributions to Exploration in Patagonia, gan Glyn Williams. The Geographical Journal (1969), vol. 135, part 2. Diddorol yw gweld mab yn dilyn mor sicr yng nghamre'i dad ag y gwna'r Athro Glyn Williams. Daeth yr erthygl uchod o'i waith i law'r dydd o'r blaen wedi ymddangos yng nghylchgrawn y Gym- deithas Frenhinol Ddaearyddol. Mab Mr. R. Bryn Williams yw'r athro sydd ar hyn o bryd yn ddirprwy-athro yn adran Anthropoleg Prifysgol San Francisco. Yn yr erthygl mae Dr. Williams yn olrhain yr arloesi a wnaethpwyd gan Gymry yn y rhan yma o Ariannin. Symbylid yr ymfudwyr cynnar gan sawl ysgogiad i fentro i'r wlad tu ôl i ddyffryn Chubut ac erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf daethant yn gyfarwydd â phob cornel o'r dyffryn. Ychwanegwyd cymaint o wybodaeth ganddynt am y rhan yma o'r Andes nes ei thrawsnewid o fod yn gefn gwlad ddiarffordd ddirgel yn ardal ag iddi bosibiliadau di-ben-draw. Pwysleisia Dr. Williams y modd y lüwia cefndir y sefydlwyr cynnar yma eu hagwedd at eu hamgylchfyd newydd. Roedd ynddynt duedd gref i unoli eu hunain â'r hen Israeliaid yn yr anialwch a cheir adlais o'r hen chwedlau gwerin Cymreig yn eu had.'oddiadau am eu teithiau. Wrth gyfarwyddo â'r amgylchfyd collasant eu hofn gan weld ynddo ddeunydd elw ond er cyfarwyddo roedd yn parhau i'w cynhyrfu ac ni allent lai na chymharu â Chymru o hyd. Daeth y rhai a anwyd yno hyd yn oed i wybod sut wlad oedd Cymru wrth glywed y rhai hyn o hyd yn cymharu â Chymru. Graded Examples for 'O' Level Physics in S.I. Units, gan C. B. Follard. Llundain: John Murray, 1970. Pris 8s. Bwriad y llyfr cryno hwn yw rhoddi casgliad helaeth o enghreifftiau rhifiadol ar gyfer cwrs arferol lefel 'O' y dystysgrif gyffredinol gan ddefnyddio'r unedau S.I. (Système ìnternationale). Mae pum adran i'r llyfr, sef Hydrostateg a Mechaneg (yr adran fwyaf), trydan cerryntau, Gwres, Golau a Sain. Dechreuir y tair adran gyntaf gyda rhestr ddefnyddiol o'r holl Unedau S.I. a ddefnyddir yn yr adran honno. Rhennir pob adran fesul testunau gydag un, dau neu dri o enghreifftiau eglurhaol ar gyfer pob testun, a R.M.P. dilynir rhain gan ymarferion wedi eu graddio, yn ôl eu hafrwyddineb o'r un fath. Esbonir yr enghreifftiau eglurhaol yn dda, a rhoddir atebion i'r ymarferion ar ddiwedd y llyfr. Ni chedwir yn gaeth i'r Unedau S.I. ym mhob man, ac awgrymir y bydd rhai unedau nad ydynt yn S.I., ond sydd yn ddiffiniadwy mewn termau'r Unedau S.I. yn dal, yn ymarferol, i gael defnydd. Yn yr adran ar olau, mesurir yr holl pellteroedd, oni bai am y rhai a ddefnyddir mewn photometreg, yn centimetrau-nid yw hyn yn wahanol i lawer o ymarferion yn y llyfrau traddodiadol. Pan ddefn- yddir yr Unedau S.I., fel y gwneir yn y mwyafrif o enghreifftiau, cedwir yn gaeth tu mewn i gonfensiynau ac arferion y 'S.I. gan hyd yn oed ddefnyddio indecsau negyddol yn hytrach na'r solidws ar gyfer unedau deiiliadol. Ar wahân i ddangos i'r rhai sydd wedi arfer â'r unedau traddodiadol sut y bydd eu cyfrifiadau a'u henghreifftiadau yn edrych yn Unedau S.l.- a bydd hyn i'w weld mewn gwerslyfrau ar ôl i ddefnydd cyffredin o'r unedau hyn gyrraedd- nid yw'r llyfr yn wahanol mewn egwyddor i'r llyfrau y bydd llawer o athrawon a disgyblion yn ei gael o ddefnydd tra yn adolygu gwaith ar gyfer ei arholiad. G.E.O. Biology and Ethics. Golygwyd gan F. J. Ebling. Academic Press, 1969. Pris 40s. Mae'n debyg fod gan y rhan fwyaf ohonom ryw fath o syniad o'r hyn a olygir wrth y term 'moeseg' (ethics). Ac eto, yn rhyfedd iawn, i'r rhan fwyaf ohonom y mae meddu ar ymagwedd foesegol neu wneud datganiad moesegol yn llawer rhwyddach na diffinio moeseg ei hun. Nid rhyfedd felly i lawer amau'r holl bosibilrwydd o godi unrhyw system gyffredinol o foeseg; dadleuant mai cyfundrefn hollol leol yw pob moeseg sydd wedi ymddangos yn y byd hyd yma-rhyw batrwm ad hoc nad yw'n ystyrlon ond y tu fewn i ffiniau'r gymdeithas a roes fod iddi. Mae'n amlwg i bawb, er enghraifft, fod daliadau moesegol gwledydd Islam yn hollol wahanol i'r eiddynt y Gorllewin Cristnogol. Yn ôl Leach (Darlithiau Reith, 1967) nid oes yr un rheol foesegol sy'n gyffredin i bob math o gymdeithas, heblaw efallai honno sy'n gomedd cyfathrach rywiol rhwng mam a mab.