Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol hlYD yma, yr agweddau politicaidd ac economaidd sydd wedi blaenori yn y dadleuon ynglyn â mynediad Prydain i'r Farchnad Gyffredin. Cafodd Mr. Geoffrey Rippon lwyddiant arbennig yn y trafodaethau, ac mae'r cytundeb terfynol a enillodd yn cydnabod safle Prydain mewn perthynas à rhai gwledydd yn y Gymanwlad sydd mor ddibynnol arni. Gan fod cymaint o bwyslais wedi ei roi ar yr agweddau hyn, mae tuedd i anwybyddu elfen holl bwysig arall yn y berthynas rhwng Prydain ac Ewrop, sef yr agweddau gwyddonol a thechnolegol. Nid oes yr un wlad ar gyfandir Ewrop sydd wedi datblygu ymchwil wyddonol sylfaenol i'r graddau mae Prydain wedi'i wneud, gan gynnwys yr Almaen. Mae'n wir iddynt ddatblygu'n dechnolegol mewn rhai cyfeiriadau yn llawer cyflymach nag a wnaethom ni ers y rhyfel diwethaf. Cawsant fanteision amlwg i'w cynorthwyo. Nid oedd yn rhaid iddynt geisio moderneiddio llu o ffatrïoedd hen ffasiwn. Gwelir o amgylch Trafford Park, Manceinion, heddiw rai o'r ymdrechion truenus at foderneiddio a wnaethpwyd yma. Gwneud y tro efo'r hyn oedd ar gael a wnaethpwyd yma, ond nid felly yn yr Almaen. Cafodd y ffatrioedd eu dinistrio a rhaid oedd adeiladu o'r newydd gyda'r offer a'r dulliau diweddaraf yn cael y fantais orau. Mae ail-ddechrau fel hyn yn creu agwedd meddwl newydd hefyd a manteisiodd yr Almaenwyr i'r eithaf ar y cyfle. Tyfodd yr economi mor gyflym nes awgrymu i rai bod yn well colli'r rhyfel na'i hennill. Er y llwyddiant aruthrol, fe wyr yr Almaen, fel gwledydd eraill y cyfandir, na ellir parhau i dyfu ar y raddfa yma os nad yw'r ymchwil wyddonol sylfaenol yn datblygu ar yr un cyflymdra. Bellach mae'r cyfnod rhwng y darganfyddiad yn y labordy, a rhoi hwn ar waith i wneud arian mewn ffatri, wedi disgyn i rhyw 20-25 mlynedd. Byw mae diwydiant felly ar gyfalaf y gorffennol ac os nad yw'r gwrtaith yn cael ei osod yn ytir, ni fydd ffrwyth maes o law. 'Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd', meddai'r Cardi, 'tra fod y tide yn dod i mewn!' Dyna'n union yw ymchwil wyddonol yn fy marn i, a rhaid wrth ei ffrwyth os yw cymdeithas i elwa'n dechnolegol. Er bod cryn feirniadaeth ar y lleihad yn y cymorth a roddir gan y llywodraeth ym Mhrydain i ymchwil sylfaenol, rydym ymhell ar y blaen i wledydd y cyfandir, yn enwedig yr Eidal a Ffrainc. Bûm mewn cysylltiad â labordy ymchwil genedlaethol yn yr Eidal ers rhyw bedair mlynedd bellach, ac mae'n anhygoel mor aneffeithiol mae'n gweithio. Gwnaethpwyd rhai penderfyniadau ddwy flynedd yn ôl i fynd ymlaen ar hyd un llwybr arbennig, a chafwyd bendith yr awdurdodau yn Rhufain ar y penderfyniad. Er hynny, nid oes golwg eto ar yr arian sy'n angenrheidiol i gynnal y gwaith. Ni symudwyd felly un cam ymlaen, a mae fy nghyfeillion yn yr Eidal yn fy sicrhau mai felly mae hi ar draws y wlad. Mae gwyddonwyr brwdfrydig wedi'u parlysu gan y biwrocratiaeth sy'n deillio o'r llywodraeth. Mae yno hefyd fân ymrannu yn yr adnoddau, a'r canlyniad yw, er bod cyfartaledd eitha o'r incwm cenedlaethol yn cael ei wario ar ymchwil, nid yw'r canlyniadau cystal ag y disgwylid. O'r herwydd mae'r gwyddonwyr unigol yn colli eu statws mewn perthynas â'u cyfoedion ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, ac ni ellir yn hawdd wedyn ei adennill. Nid yw Ffrainc chwaith fawr gwell pan ddaw i ddosbarthu adnoddau at ymchwil. Aeth ymchwil ynni atomig â chyfartaledd llawer rhy uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd pwyslais yr Arlywydd de Gaulle ar ddatblygu arfau niwclear. Siomedig hefyd fu cyfraniad y Prifysgolion yn Ffrainc, yr Eidal a'r Iseldiroedd tuag at ffrwyth ymchwil eu gwlad. Oherwydd fod gan bob unigolyn hawl sylfaenol i dderbyn addysg Prifysgol, tagwyd y colegau gan fyfyrwyr-llawer ohonynt heb fod à'r cymwysterau na'r ysgogiad i ddilyn cwrs gradd. Yn draddodiadol hefyd, mae'r cyrsiau yn aruthrol o hir cyn i'r myfyriwr dderbyn gradd, a'r sefyllfa yw bod y Prifysgolion, at ei gilydd, yn [weithredu yn gwbl aneffeithiol, gyda dros hanner y myfyrwyr yn methu cwblhau'r cwrs. canlyniad yw bod anniddigrwydd mawr ymhlith y myfyrwyr ac yn naturiol trodd hyn yn ddialedd