Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffiseg Heddiw III. Bodargraff y Bydysawd Y Tonnau Electromagnetig TEGID WYN JONES YN ôl y ddealltwriaeth ddiweddaraf achos pob newid yn y byd anianol ydyw'r naill neu'r llall o'r pedwar grym-y grym cryf, y grym trydanol (neu electromagnetig), y grym gwan, a'r grym dis- gyrchiant. Pelydrir tonnau o'r grymoedd yma pan fo un ohonynt yn peri cyflymiad neu ddirgryniad yn unrhyw system, boed yn y cnewyllyn atomig neu yn y galaethau. Mae'r tonnau yma yn gysylltiedig, ac yn wir yn gwbl gyfystyr, â'r gronyn sy'n cludo dylanwad y grym. Gan fod cludydd y grym cryf (y pi a'r K-meson) a'r grym gwan (y boson canolig) yn rhai trymion iawn cyfyngir tonnau'r grymoedd hyn i bellteroedd sydd ar raddfa'r cnewyllyn, neu lai, ac nid oes obaith eu canfod ar raddfa fwy. Ar y llaw arall mae'r photon, sef cludydd y grym trydanol, a'r graviton, cludydd grym disgyrchiant, Y maes electrig (——) a'r maes magnetig (- -1- ) yn lledaenu o wefr neu wefrau sy'n dirgrynu megis mewn atom neu'r aerial cyfarwydd. Mae'r llinellau yn fath o fap o'r meysydd hyn a'u cyfeiriad yr un â chyfeiriad y maes: agosa'r llinellau, cryfa'r maes