Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canolfan Addysg Feddygol Newydd Caerdydd J. HENRY JONES Ganwyd yr awdurym Mhenrhoslligwy, Sir Fôn a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llangefni ac yn Ysgol Feddygol Cymru, Caerdydd. Wedi graddio yn 1954 bu yn y fyddin ac yna yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgolion Birmingham a Manceinion. Yn 1963 dychwelodd i Ysbyty Brenhinol Caerdydd fel darlithydd mewn Meddygaeth ac yn 1967 penodwyd ef yn Ffisigwr Ymgynghorol, yn arbenigo mewn afiechydon yr arennau. Efyw pennaeth Uned Dialyddiaeth Caerdydd. Gobeithir cwblhau Canolfan Addysg Feddygol newydd Caerdydd cyn diwedd 1971. Saif y ganolfan rewydd hon ar 53 o erwau ym Mharc yr Heath ac mae wedi costio tua £ 20 miliwn i'w hadeiladu. Fel e-aill o'r maint yma cymerodd y cynllun amser i laith i aeddfedu. Dechreuwyd trafod y peth yn 1945 ac fe brynwyd y tir yn 1952. Yn 1959 cyn- haliwyd cystadleuaeth i benseiri ac allan o 40 o gystadleuwyr yr enillwyr oedd S. W. Milburn a'i Bartneriaid o Sunderland, a hwy a benodwyd i'r gwaith. Mae'r cynllun yn un arbennig gan mai dyma'r tro