Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar Archaeoleg Diwydiannol (Cyfres newydd gan D. Morgan Rees, Ceidwad Adran Diwydiant, Amgueddfa Genedlaethol Cymru) 1. Y Cam Cyntaf MAE poblogrwydd y maes hwn yn dal i gynyddu. Yng Nghymru ers rhai blynyddoedd mae ysgolion haf wedi ymddiddori ynddo, dosbarthiadau allanol colegau'r Brifysgol hwythau, ac yn naturiol hollol cymdeithasau hanes lleol. Meithrinir y testun hefyd gan y cymdeithasau newydd a ffurfiwyd yn arbennig er mwyn ei astudio. Beth sydd yn gyfrifol am y ffyniant hwn? Yn gyntaf mae'r arbenigwyr sydd yn dilyn eu galwedigaethau mewn amgueddfeydd technegol a gwyddonol, yn adrannau diwydiannol amguedd- feydd, mewn prifysgolion a cholegau, ac archifydd- ion, bellach, yn cydnabod eu cyfrifoldeb. Mae nifer helaeth o archaeolegwyr clasurol a haneswyr hefyd yn cytuno ar bwysigrwydd y testun. Gwelant i gyd fod gofyn gweithio ar frys i gofnodi yr hyn sydd ar ôl o ddiwydiannau a roes y gorau i gyn- hyrchu a'r rhai hynny sydd ar fin gorffen-a mwy na hynny, dilyn polisi o gadwraeth dewisedig. Hefyd, mae amrywiaeth rhyfeddol o ddinasydd- ion wedi darganfod bod ganddynt fwy o oriau hamdden a bod elfen hynod o bleserus mewn archaeoleg diwydiannol. Mewn canlyniad gwelir bancwyr yn dilyn olion ffyrdd tramiau, siopwyr yn cerdded glannau hen gamleisi, cyfreithwyr yn chwilota adfeilion chwareli, athrawon yn mesur muriau, penseiri a'u camerâu, cemegwyr yn disgyn siafftau a chlercod yn mentro i dywyllwch lefelau hen weithfeydd mwyn plwm, copor ac aur. Mae'n amlwg fod pobl gwbl alluog yn eu meysydd eu hunain hefyd yn gwneud cyfraniadau pwysig a sylweddol i archaeoleg diwydiannol. Ar y llaw arall mae'n sicr fod rhai trwy ddiffyg gwybod- aeth o ofynion sylfaenol y testun yn methu â gwneud y cyfraniadau a allent eu gwneud. Mae'n debyg fod y cyhoeddusrwydd a roddwyd i'r testun wedi creu awydd mewn aml un i gyfranogi, awydd na fedrant ei fodloni am na wyddant pa le na pha fodd i ddechrau. Yn anffodus gwyddom fod llawer o unigolion wedi crwydro siroedd Cymru a chofnodi ffeithiau, gwneud brasluniau a thynnu lluniau o henebion diwydiannol ond i'r ystôr gwerthfawr fynd yn ofer am nas danfonwyd i ddiogelwch amgueddfa, swyddfa archifydd neu unrhyw fan priodol arall. Yn wyneb hyn oll buddiol, efallai, i'r sawl sydd am ledu ei hwyl, fyddai ychydig sylwadau rhag- arweiniol ar y testun, a gwybodaeth ymarferol ar dechneg archaeoleg diwydiannol. Pwyllgor ymchwil o dan nawdd Cyngor Archae- oleg Prydain a fu'n ceisio dod i gytundeb ar ddiffiniadau yn y blynyddoedd cynnar pan oedd y testun yn un newydd, hynny yw, 0 1959 ymlaen. Gan fod dwy Weinyddiaeth â diddordeb yn y datblygiad roedd diffiniadau yn bwysig. Yn 1959 bu trafod ar ddiffiniad a chwmpas y testun a chytunwyd y dylid ei ddiffinio fel archae- oleg diwydiannol yn hytrach nag archaeoleg yr oes ddiwydiannol. Am resymau ymarferol cytunwyd mai'r unfed ganrif ar bymtheg oedd y man cychwyn a'r uchafbwynt yn dod yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sylweddolwyd yn ddiweddarach mai testun y gorffennol agos yw yn ogystal gan mor gyflym y newidiadau. Ni ddaeth cytundeb rhwng y pwyllgor a'r Weinyddiaeth Adeiladau Cyhoeddus a Gweithfeydd ar ddiffiniad heneb diwydiannol hyd 1963. Cytun- wyd ar hwn: Unrhyw adeilad neu fframwaith sefydlog arall-yn enwedig o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol-sydd ei hunan, neu ynghyd ag offer trwm a pheiriannau, yn adlewyrchu dechreuad a datblygiad prosesau diwydiannol neu sydd â pherthynas agos â hwynt, gan gynnwys dulliau teithio. Yn sgîl y diffiniad daeth argymhelliad i drefnu arolwg ymarferol o sir i sir gan y sawl oedd yn ymddiddori yn y testun, a hefyd gwaith ymchwil yn dilyn llinellau priodol. Gofynwyd am gymorth haneswyr economeg, penseiri, peirianwyr sifil a mecanyddol, technegwyr ac archaeolegwyr. Yn ffodus roedd ami un heb gymwysterau arbennig eisoes yn gweithio yn y maes ac wedi profi ei bleser. Ar yr un adeg sefydlwyd arolwg cenedlaetho! swyddogol o henebion diwydiannol trwy apwyntil