Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r llall yn segur) oedd yn trosglwyddo'r pwer trwy werthyd ag olwyn gêr befel un pen iddo. Gyrrai'r olwyn gêr hon olwyn gêr gwastad 6 troedfedd 9 modfedd ar draws ac yn cynnwys 1,090 o ddannedd, â gwerthyd 6; modfedd o drwch yn disgyn yn syth i lawr ohoni i gylchdroi cawg y felin malu. Taflwyd y defnydd crai-y clai, carreg clai ac ychydig o ddŵr­i’r cawg i'w falu gan y ddwy garreg-falu unionsyth pan droisant yn y defnyddiau. Sylwir bod y ddwy garreg wedi eu gwisgo â chylch- oedd wedi eu gwneud o ddur tenau. Newidiwyd y cylchoedd yn ôl y galw ac ar yr un pryd roedd gofyn trwsio'r cerrig eu hunain i gywiro'r traul a fu arnynt. O gorun yr olwyn gêr gwastad i waelod y pwll o dan y felin malu roedd dyfnder o 15 troed- Llun 5. Melin malu'r garreg clau yn Wdig fedd. Defnyddiwyd dau o'r peiriannau yma yro ngwaith priddfeini Wdig. Dyma enghraifft o ddisgrifiad a lluniau ychwanegu y naill at y llall, dull defnyddiol iawn wrth gofnodi. Cyn symud ymlaen yn y rhifyn nesaf at agweddau eraill o'r testun mae gofyn dweud mai rhan hanfodol o'r arolwg ar y gwaith yma oedd cof- nodiad ar dâp o ymgom gyda'r rheolwr ac o'r cwestiynau a'r atebion yn ystod y cerdded o amgylch y weithfa. Trwy'r cyfrwng yma cafwyd disgrifiad manwl o'r gweithgareddau a hefyd wybodaeth werthfawr ar eu gorchwylion gan y gweithwyr eu hunain, trwy ymgomio â hwythau hefyd. Trwy ganiatâd Roger Worsley