Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ôl pob golwg, yr A.G.R. (Advanced Gas- ^ooled Reactor) fydd yr ail genhedlaeth. Ymweith- dd nwy yw hwn eto ond yn defnyddio iwraniwm vedi ei gyfoethogi ag iwraniwm 235 ac yn iynwysedig mewn dur neu beriliwm. Y cynllun 'Dragon' Mae yna arbrofi hefyd efo ymweithydd tym- heredd uchel yn cael ei oeri gan heliwm ac yn defnyddio fel tanwydd ronynnau o iwraniwm, thoriwm a charbon mewn caniau o graffid. (Y cynllun 'Dragon'.) Ac eto fyth, mae prototeip o ymweithydd dwr trwm yn gweithredu'n foddhaol ers 1968. Y flwyddyn nesaf y disgwylir i A.G.R. cyntaf y Bwrdd Trydan ddod i gynhyrchu ar ei heithaf. Mae prototeip yn gweithredu ers tro. Mae datblygu'r A.G.R. wedi bod yn llawn trafferthion ac yn hynod gostus-f700 miliwn meddir. Serch hynny, mae rhai sylwedyddion yn credu y dylid canlyn ymlaen gyda'r A.G.R. yn hytrach na gwasgaru adnoddau ar ddatblygu'r lleill. Peth dros dro fydd yr A.G.R., beth bynnag, gan fod yr F.B.R. (Fast Breeder Reactor), yr ym- weithydd sy'n defnyddio plwtoniwm ac yn cenhedlu rhagor ohono, yn cael ei ddatblygu ac yn addo bod yn effeithiolach na'r un o'r lleill. Yn wir, fe ddywedir nad oes gan Brydain obaith i ennill dim o'r farchnad dramor mewn ymweithyddion heb ganolbwyntio ei hegnïon ar y math yma o ym- weithydd yn unig. A gwneud elw, wrth reswm, yw pwrpas y consortia mawr o ffyrmiau sydd ynglyn â'r gwaith yma. Pwerdai'r dyfodol Ond waeth pa gyfeiriad a gymerir, bydd y gyfres nesaf o bwerdai nuclear yn gofyn technoleg newydd. Ac fe gyfyd y posibilrwydd y gall y newydd-deb a'r diffyg profiad arwain i ddamwein- iau. Cofiwn y ddamwain yn Windscale oherwydd diffyg profiad yn nyddiau cynnar yr ymweithyddion. Ac fe gafwyd adroddiad ym mis Mawrth eleni am helynt annisgwyl yn codi ynglŷn â'r F.B.R. arbrofol yn Dounreay. Cychwynwyd ar ddatblygu hwn yn 1959 a hyd 1966 ni chafwyd unrhyw broblemau o bwys. Ond erbyn hyn fe welir bod niwtronau lluosog yn gallu achosi i'r deunydd dur sy'n amgylchynu'r ymweithydd chwyddo'n beryglus trwy achosi myrdd o wagleoedd bach ynddo. Amheuon Yn ddiau, fe geir rhyw ddatrys i'r broblem hon. Ond tybed a fydd problemau eraill yn codi na ddychmygwyd erioed amdanynt? Dyma'r am- heuaeth sy'n blino'r sawl sy'n meddwl o gwbl am ddatblygiadau yn y maes yma-hynny a'r am- heuaeth a ddylid caniatáu gwario mor eithafol ar faes mor ansicr ei ganlyniadau, yn enwedig gan mai dull cymharol aneffeithiol yw'r dull hollti atomau o gynhyrchu pwer-nid yw namyn ffwrnais arall i godi ager yn union fel y gwneir yn y pwerdai glo ac olew. Tybed a fyddem wedi gweld y fath ddatblygiad yn y maes hollti o gwbl onibai am ei gysylltiad anatodadwy â'r diwydiant arfau? Angen arolwg Yn sicr mae angen gwneud arolwg gwrthrychol o'n problemau pwer. Mae yna amrywiaeth o ddulliau posibl o gynhyrchu trydan nad ydym ond megis dechrau eu datblygu: asiad atomau, celloedd tanwydd, celloedd haul, dulliau thermionig, thermo- drydanol neu magneto heidrodeinamig, i enwi dim ond rhai. Sylwaf fod y Rwsiaid wedi cael peth llwyddiant yn ddiweddar gyda'r dull magneto- heidrodeinamig. Gwir fod ar rai o'r dulliau hyn angen ffynhonnell o wres i gychwyn ond fe ddylid, o'r holl bosibiliadau hyn, fedru datblygu rhyw ddull syml ac effeithiol o gynhyrchu trydan- hwyrach yn fwy lleol nag ar hyn o bryd. Tueddwn i anghofio fod yn rhaid ychwanegu at gost y pwerdai anferth a godwn heddiw y gost llawn cymaint mae'n debyg o ddosbarthu'r trydan ar draws gwlad. Tybed beth fyddai'r canlyniadau pe byddid yn gwario yn uniongyrchol ar ymchwil i'r dull effeithiolaf a mwyaf diniwed o gynhyrchu trydan cymaint ag a wariwyd eisoes ar y diwydiant nuclear ?