Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynaeafu Dŵr Gunite, cymysgedd o cement, tywod a dwr yn cael ei gywasgu i rwydwaith metel i lunio arwynebedd dal dwr FEL y cyfyd y gofynion am ddwr gwneir pob ymgais i dynnu'r halen o ddwr y môr, cludo dwr o'r naill ardal i'r llall, cyfaddasu'r tywydd i roi mwy o law ac eira ac ail-ddefnyddio yr un dwr. Gellir ateb gofynion rhai ardaloedd gyda thriciau gwyddonol fel hyn, ond nid yw'r hud yn gweithio ymhobman. Nid oes dwr cyfagos i'w fewnforio mewn ambell fan, na môr i'w ddihalltu, na dwr i'w ail-ddefnyddio. Sut y gellir cael dwr yno ? Un posibilrwydd yw cyfaddasu'r hen arfer o gynaeafu dwr gyda dewinaeth technoleg fodern- casglu a chronni'r dwr oddi ar dir wedi ei addasu i gynyddu rhediad y glaw a thawdd yr eira. Cael gafael, fel petai, ar y gwlybaniaeth cyn iddo ddiflannu o flaen eich llygaid. Collir dwy ran o dair o'r glaw a ddisgyn ar yr Unol Daleithiau gyfandirol. Yn nyffryn y Colorado ymddengys llai na 10 y cant o'r glaw fel dwr yn yr afon. Sudda'r gweddill i'r tir sych ac yna anweddu'n wastraffus. Mae'n syndod wir faint o ddwr sy'n syrthio fel glaw; un filimedr dros un fedr sgwâr yn rhoi un litr o ddwr. Yn nhalaith sych Nevada, disgyn digon o law bob blwyddyn i lenwi casgen 230 litr i bob medr sgwâr o dir y dalaith. Mewn ami i fan yn nhalaith wleb Hawaii, syrth 1,000 o alwyni i bob llathen sgwâr ond eto ceir prinder dwr yn Hawaii. Â'r glaw yn gyflym drwy'r tir hydraidd a'r golosg i lawr at lefel y môr. Er y gellir pwmpio dwr ffres o'r lefel yma, ceir yn aml iawn fod heli'r môr wedi ei halogi. Pe gellid cadw'r glaw rhag hidlo drwy'r tir gellid cronni cyflenwad helaeth o ddwr. Nid syniad newydd yw cynaeafu dwr. Yn ystod yr Oes Bres Ganol-tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl—byddai'r amaethwyr yn clirio'r cerrig oddi ar ochrau'r bryniau i liniaru'r wyneb a chynyddu