Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iiediad y glaw. Torrid ffosydd ar draws y bryn i asglu'r dwr a'i gario i'r dolydd islaw. Dyma hefyd ut y tyfid yd yn niffeithwch Negev lle disgynnai hyw bedair modfedd o law y flwyddyn. Peth yffredin hefyd yn yr Unol Daleithiau, cyn cael yflenwad dwr o system ganolog, oedd casglu dwr rlaw oddi ar y tô. Dros y blynyddoedd anghofiwyd ein medrusrwydd cynnar yn codi o angen, ond yn wyneb y galw diweddar am gyflenwadau helaethach o ddwr, ail-ystyriwyd yr hen arfer o gynaeafu dwr yng ngoleuni gwybodaeth fodern. Yn New South Wales, Awstralia, cynlluniodd Hector Geddes system debyg i un anialwch Negev ar fferm arbrofol Badgery's Creek. Disgyn chwe modfedd ar hugain o law y flwyddyn yma ond mae cyfnodau sych, hir yn rhwystro tyfiant porfa dda a gwair. Adeiladodd Mr. Geddes ffosydd a chron- feydd i gasglu'r dwr a syrthiai ar ddwy ran o dair o'r fferm. Rhoir dwr i'r traean arall gan chwis- Ffotograffydd yn tynnu llun gweithwyr ar gynllun cynaeafu dwr yn Hawaii, sy'n dioddef yn arw oherwydd diffyg dwr trellydd yn pwmpio dwr o'r cronfeydd. Ceir cynnyrch uchel o borfa a gwair ar y fferm yn awr, fferm a drawsnewidiwyd o fod prin yn hunan- gynhaliol i fod yn uned hynod o broffidiol. Mae miloedd o aceri o dir yng nghanoldir gorllewinol yr Unol Daleithiau yn gorwedd yn segur oherwydd diffyg dwr yn ystod y tymor pori. Rhaid cario dwr yfed i'r gwartheg-gwaith costus ac, mewn ambell fan anghysbell, amhosibl. Aeth C. W. Lauritzen, gwyddonydd gydag adran amaethyddiaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau, i ymaflyd â'r broblem drwy ddefnyddio cynfasau plastig a rwber. Datblygodd cronfa law. Gall cynfas o 5,000 i 10,000 o droedfeddi sgwâr hel dwr i'w ystorio mewn bag rwber ddeil 0 2,000 i 20,000 o alwyni. Eir â'r dwr ar hyd pibell i gafn yfed. Gwaith hawdd yw rholio'r cynfasau a'r bagiau a'u symud o Ie i le fel bo'r galw.