Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clyw a Phersonoliaeth Ganwyd yr awdur yn Llanbedr Pont Steffan ond symudodd y teulu yn gynnar i Lundain ac yno y cafodd ei addysg yn Ysgol Whitgift ac Ysgol Feddygol Charing Cross lie y graddiodd yn feddyg. Wedi dwy flynedd o waith meddyg ymunodd â'r Cyngor Ymchwil Meddygol a btfn gweithio iddynt yn y Labordy Ffisegol Cenedìaethol yn Teddington. Ysgrifennodd ei draethawd Ph.D. ar seicoacwsteg. Yn ddiweddar iawn symudodd i'r Sefydliad Ymchwil Sain a Dirgryniad ym Mhrifysgol Southampton a sefydlwyd gan y Cymro Cymraeg Dr. Elfyn Richards. Mae'n briod â Llydawes ac mae ganddynt un ferch. Rhagymadrodd A NINNAU yn y saithdegau bellach, daw mwy o bobl yn ymwybodol o'r ffaith fod swn gyda'r halogi mwyaf difrifol yn ein hamgylchedd. A chyda chynnydd eto mewn trafnidiaeth ar ein ffyrdd ac yn yr awyr, ymddengys y bydd y sefyllfa yn dal i waethygu oni eir ati i'w rheoli, a hynny'n fuan. Daw yn eglur hefyd, wrth ystyried yr elfen boen yn swn awyrennau, fod awyren sy'n hedfan yn isel yn peri poen i ddyn gor-deimladwy ac eto'n debyg o adael ei gymydog mwy digyffro heb ei boeni o gwbl. Ac mae hyn, ynghyd â stwr plant yn sgrechian yn y cartrefi, heb sôn am y twrw a ddaw o'r teledu, yn un o'r enghreifftiau amlycaf o ddylanwad personoliaeth dyn ar effeithiau yr hyn a glyw. Gall rhyngweithiad swn a phersonoliaeth ddan- gos ei hun mewn llawer ffordd, ac archwiliwyd ei wahanol agweddau yn fanwl gan amryw o weithwyr. Ynglŷn ag awyrennau sy'n hedfan yn isel, hwyrach y gall swn disymwth dynnu sylw dyn oddi wrth ei waith ac ymyrryd â'i drachywiredd. Gall swn parhaol awyrennau fod yn straen arno ac effeithio ar ei bersonoliaeth trwy newid cyffroad yr ym- wybod, ac mewn canlyniad, ei effeithiolrwydd cyffredinol. Ac yn olaf, gall fod yn straen ar y rheiny sydd ganddynt bersonoliaeth mwy teim- ladwy fel ag i achosi anhwylderau seicolegol a seicosomatig. Gall personoliaeth dyn ddylanwadu ar y ffordd y bydd yn canfod synau. Gall effeithio ar yr amrywiadau yn ei allu i glywed seiniau tawel iawn a'r ffordd y bydd yn ystyried y rhai cryf. Effaith bellach yw honno ar gyflymder ei ymateb i symbyliadau sy'n ymwneud â'r clyw. Y gweithiad olaf cydrhwng clyw a phersonoliaeth y byddaf yn ei ystyried yw hwnnw sy'n perthyn i ddyn annormal ei glyw, ac effeithiau dichonadwy y byddardod yma ar ei bersonoliaeth. Gellir ystyried yr effeithiau mewn tair ffordd. Yn gyntaf, ceir y gwahaniaethau personoliaeth rhwng pobl a DAFYDD STEPHENS anwyd yn fyddar a phobl gyffelyb normal eu clyw. Yn ail, ceir y gwahaniaethau personoliaeth mewn pobl sy'n dioddef mathau arbennig o fyddardod, ac yn drydydd, ac mae hyn yn helaethiad o'r dosbarth blaenorol mewn gwirionedd, ceir y gwahaniaethau personoliaeth mewn pobl sy'n colli eu clyw am resymau digynhenid neu seicogenig. Sŵn fel straen Cymhwysodd Corcoran (1965) y berthynas rhwng cyffroad dyn a'i effeithiolrwydd mewn gorchwyl penodol i astudiaethau mewn effeithiau swn a phersonoliaeth (Ffig. 1). Dangosodd sut y gallai personoliaeth dyn bennu ei safle normal ar yr U hon. Fel arfer, bydd man cychwyn safon dynion mewnblyg i'w gwaith yn uwch na'r hyn a berthyn i'r rhai alltroëdig, a lleolir hwynt ymhellach i'r dde ar y gromlin mewn canlyniad. Effaith swn yw ychwanegu at gyffroad yr ymwybod, a chan hynny, ei symud i'r dde. Felly, os bydd yr alltroëdigion wedi eu lleoli ar y rhan ddyrchafedig o'r gromlin ar bwynt A, bydd swn yn ychwanegu'n ddirfawr at safon eu perfformiad, ond ychydig yw'r effaith ar safon y rhai mewnblyg sy'n nes ymlaen ar hyd y gromlin ar bwynt B. Yn yr effaith hon, gweith- reda'r swn fel straen amhenodol, a gall ffurfiau eraill o straen fel diffyg cwsg ac yfed diod feddwol weithredu'n ogystal y naill ar y llall. Dengys Davies a'i gydweithwyr (1969) ei bod yn well gan alltroëdigion, os rhoddir dewis iddynt, weithio mewn cefndir o swn nag ydyw gan ddynion mewnblyg, ac y mae hyn yn awgrymu y gall rhyngweithiad swn ddigwydd ar lefel ymwybodol yn ogystal ag ar lefel isymwybodol. Gellir esbonio llawer o hyn ar sail syniad Eysenck (1963) fod gan alltroëdigion system nerfus sy'n gryf o atalnwyd (o'i chymharu â'r hyn a berthyn i ddynion mewn- blyg) ac a fydd yn gofyn am symbyliad newydd parhaol er mwyn cynnal safon uchel o berfformiad. Tebyg iawn yw hyn i syniad Pavlov am y systemau