Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

íatur Prifysgol I. Ei Swyddogaeth GORONWY H. DANIEL (Prifaíhro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth) [Mae natur Prifysgol Cymru a phob prifysgol arall wedi newid yn syfrdanol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf yn bennaf fel canlyniad i dyfiant cyflym yr adrannau gwyddonol a thechnolegol. Oherwydd y pwyslais aruthrol ar y datblygiadau hyn, mae tuedd i ni golli golwg ar natur a dibenion Prifysgol mewn oes wyddonol. Am y rheswm yma mae Y GWYDDONYDD yn croesawu'r ymdriniaeth o'r pwnc, a ddewisodd Syr Goronwy yn destun i'w ddarlith agoriadol* yn Aberystwyth. Byddwn yn ei chyhoeddi mewn dwy ran, y rhan gyntaf yn trafod swyddogaeth Prifysgol a'r ail ran ei pheirianwaith. Rydym yn hynod ddiolchgar iddo am sylwadau treiddgar ar y broblem, a hyderwn y gwelwn barhad o'r drafodaeth yng ngholofnau Y gwyddonydd. — Gol.] RwYF am gyfleu fy argraffiadau nid o Goleg Aberystwyth yn unig ond o fyd prifysgol yn gyffredinol, a cheisiaf wneud hyn o safbwynt nodweddion sylfaenol prifysgol, sef swyddogaeth, gweinyddiaeth a maint. Dechreuwn gyda'r swyddogaeth. Hanfod prif- ysgol, yn ôl un farn a fynegir weithiau (fel arfer gan y rheiny sy'n gwrthwynebu'r galw cyfoes am ehangu addysg prifysgol) yw na ddylai ymboeni'n bennaf ynglyn ag anghenion cymdeithasol ac economaidd ond yn hytrach y dylai ganolbwyntio ar fod yn noddwr diwylliant a gwareiddiad. Rwy'n amau a oes modd amddiffyn y safbwynt hwn ar unrhyw dir, boed hanesyddol, athronyddol neu ymarferol. Yn sicr ni ellir ei gynnal drwy gyfeirio at syniad y Groegwyr am addysg neu'r math o addysg a ddarperid ym mhrifysgolion yr hen fyd. Prif amcan Plato oedd cynhyrchu dynion a chymwysterau i ymgymryd â chyfrifoldeb mewn cymdeithas; ni fu dim erioed yn llai dilettante na'r hyfforddiant milwrol, corfforol, moesol a meddyliol a oedd, yn ei farn ef, yn angenrheidiol ar gyfer y nod hwn-hyfforddiant a ddylai barhau, meddai, hyd eu penblwydd yn 35 oed yn achos yr etholed- igion hynny a fyddai'n dal y swyddi uchaf o11 fel gwarcheidwaid y wladwriaeth. Does dim chwaith yn hanes yr hen brifysgolion Ewropeaidd i gyfiawnhau'r farn mai swyddogaeth neilltuedig a diwylliannol bur yw swyddogaeth ■^rifysgol. Mae'n wir bod y prifysgolion hyn yn rhoi efndir cyffredinol o ddiwylliant i rai gwyr ifainc yfoethog a allai edrych ymlaen at fywyd o Cyf. Hywel W. Jones. hamdden, ond y man cychwyn iddynt yn ystod tair canrif cyntaf y mileniwm presennol oedd yr ysgolion diwinyddiaeth, athroniaeth, y gyfraith a meddygaeth. Eu cynnyrch, o'r cychwyn, oedd gwyr wedi eu hyfforddi i wasanaethu'r Eglwys a'r Wladwriaeth, i ddilyn galwedigaeth yn y gyfraith, mewn meddygaeth ac mewn masnach. A does gennym ni ddim mwy o hawl i synied am brif- ysgolion fel canolfannau dysg y tu allan ac ar wahân i gymdeithas nag sydd gennym i synied am