Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn perthynas â'n gwlad. Yr argraff sydd gen i yw na roddwyd fawr ddim sylwi'r cwestiwn hwn yn nyddiau cynnar y Brifysgol. Mae'n dda iddo gael mwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf yma, oherwydd un o rinweddau naturiol bywyd ym Mhrydain yw amrywiaeth a chyfoeth yr etifeddiaeth ddiwylliannol, ac fe fyddai gadael i un o'i nod- weddion arbenicaf-sef yr iaith Gymraeg a'r cyfan sydd ynghlwm wrthi-ddiflannu yn tlodi'r etife- ddiaeth yn ddirfawr. Y mae peryglon y bydd iddi ddiflannu, a phwysant yn drwm ar ysgwyddau llawer o bobl, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg. Canodd Gwenallt am bwysau'r ofnau hyn: Paham y rhoddaist inni'r tristwch hwn? A'r boen fel pwysau plwm ar gnawd a gwaed, Dy iaith ar ein hysgwyddau megis pwn A'th draddodiadau'n hual am ein traed. Mae yna rai a fyddai'n barod i ddweud 'gollyngwch eich baich, torrwch eich hualau a rhowch y gorau i'r ymdrech o gynnal yr iaith a'r traddodiad'. Ond ffordd lwfr fyddai hon, ffordd a fyddai'n tlodi ein dyfodol, ac fe fyddai'n anodd gan ein disgynyddion faddau i ni pe cymerem hi. Pan ddiflanna'r iaith, fe ddiflanna am byth, ac nid unrhyw goleg ond y genedl ei hun sydd i benderfynu ar fater mor dyngedfennol. Cyhyd ag y myn y genedl drysori ei thraddodiad diwylliannol arbennig, ein dyletswydd ni fel coleg Cymreig fydd gwneud yr hyn sydd o fewn ein gallu i gynnal a chyfoethogi'r traddodiad hwnnw. Rydym eisoes wedi dangos ein parodrwydd i dderbyn y cyfrifoldeb hwn drwy roi statws i'r iaith yn ein gwaith beunyddiol, drwy'r hyn a wnawn i ddarparu cyfleusterau gogyfer ag astudio nifer o bynciau drwy gyfrwng yr iaith, a thrwy'r gefnogaeth a rydd ein staff a'n myfyrwyr i weithgareddau diwylliannol. Rhaid i ni beidio anghofio mai un o'r prif resymau dros enciliad yr iaith Gymraeg yw nad oes digon o famau Cymru wedi ei gweld hi'n werth ei throsglwyddo i'w plant. A'r hyn sydd fwyaf ei angen heddiw, yn hytrach nag unrhyw weith- redoedd sy'n cysylltu'r iaith â gwrthryfel a thorcyfraith, yw mwy o waith adeiladol ag iddo'r nod o ddangos fod y gallu i siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg o fudd diwylliannol a galwedig- aethol. Hyn yn unig a all annog ac adennill cefnogaeth y mamau hynny. Dyw cefnogi'r iaith a diwylliant fel un o'n priod amcanion ddim yn golygu, wrth gwrs, fod y Coleg yn fewnblyg; yn wir, mae'r amcan hwn yn gwbl gyson â swyddogaeth ryddfrydol addysg, sef cyn- hyrchu'r dyn cyflawn, yn ogystal â'r swyddogaeth alwedigaethol a swyddogaethau eraill sydd i'r Brifysgol. Tra'n bod ni'n awyddus i wneud yr hyn a allwn i feithrin ein traddodiad brodorol, mae ei 1 campus yn agored i bob chwa o ddysg a diwylliar t o bob gwlad o dan haul, ac fe anogir ein haeloda i i ddatblygu eu diddordebau a'u talentau yn uncl â'u dymuniad hwy eu hunain. Ymchwil am y gwirionedd Hanfodion ym mhob gwir brifysgol yw'r gwydd- onydd a'r athronydd sy'n ymgyrraedd at y gwirionedd, â chanddynt y rhyddid mewn addysg ac ymchwil i fynd ar drywydd y gwirionedd hwn ble bynnag y'i ceir a beth bynnag fo'i oblygiadau. Nid peth annisgwyl yw i hyn arwain at wrthdaro yn erbyn awdurdod y sefydliad. Weithiau yn y gorffennol fe olygai hyn wrthdaro â chrefydd a'r argraff sydd gen i yw ein bod ni yng Nghymru wedi mynd trwy gyfnod o ddadrithiad o ganlyniad i effaith y swyddogaeth hon ar y meddwl crefyddol traddodiadol. Mynegwyd y dadrithiad hwn gan Margam Jones, 'proffwyd y talcen glo'-bardd sy'n apelio'n fawr ataf i gan fod y diwydiant glo yn rhan o'm cefndir i fy hun: Mae addysg yn uwch nag a fu erioed Ma' hynny'n beth da ma'n wir, Ond rywfodd ne'i gilydd ta beth sy'n bod Ma' paganiaeth yn ennill tir; Crefyddwyr Cymru fu'n dadle'n dynn Am gal y Brifysgol, ond 'nawr Ma'r sceptics graddedig yn talu am hyn Wrth rytag yr eclws i lawr. Rwy'n credu, fodd bynnag, fod y gwrthdaro a welwyd yn amlwg rhwng gwyddoniaeth a chrefydd ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon wedi diflannu i raddau helaeth erbyn hyn. Mae'r meddylwyr crefyddol yn dod yn fwyfwy parod i dderbyn gwerth yr agwedd wyddonol sy'n seiliedig ar reswm ac ar ddadansoddi natur y cread a'r problemau sy'n wynebu'r ddynoliaeth. Hefyd, mae gwyddonwyr cyfoes yn ymwybodol iawn mai cyfyngedig yw eu gorchestion hwy eu hunain, a bod dirgelion di-ri heb eu datrys ganddynt hyd yn hyn, a sylweddolant y gwahaniaeth rhwng eu swyddog- aeth hwy â gwaith yr arweinwyr a'r athronwyr crefyddol-gwaith sydd lawn cyn bwysiced, sef sefydlu agweddau dyrchafol at fywyd. Mae'r ddwy ochr yn dod at ei gilydd drwy gyfrwng gostyngeidd- rwydd ar y naill law a dirnadaeth ar y llaw arall o'r problemau sy'n dal i'w hwynebu er gwaethaf poh ymdrech. Mae'r cynnydd mewn poblogaeth yn trethu adnoddau naturiol y ddaear i'r eithaf, a felly'n peri tyndra rhwng gwahanol genhedloedd hiliogaethau, a rhwng pobl a'i gilydd yn eh canolfannau gor-boblog. Tra'n ychwanegu at ei